
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2021.
2 
Yn Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014, yn rheoliad 22 (dirprwyo swyddogaethau), ar ôl paragraff (2)(d) mewnosoder—“
(e) swyddogaethau’r awdurdod yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996, pan fo’r swyddogaethau hynny wedi eu rhoi gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 neu o dan y Ddeddf honno.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2021