
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;
(b) ystyr y “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.
RHAN 2
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—“
 Dinas Jerwsalem”“
 Gweriniaeth Botswana”“
 Israel”“
 Mauritius”“
 Seychelles”.
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 9 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
RHAN 3
4 
Hepgorer rheoliad 12C (rheolau arbennig sy’n berthnasol i bobl sy’n teithio o Dde Affrica) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
5 
Pan fo rheoliad 12C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys i berson, yn union cyn 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021, mae’n parhau i fod yn gymwys i’r person hwnnw er gwaethaf ei ddirymu gan reoliad 4.
6 
Hepgorer Rhan 3B (teithio o Dde Affrica) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
RHAN 4
7 

(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder—“
RHAN 3C
12E. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) yn cael ei osod ar berson (“P”) am fod P—
(a) wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A, neu
(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Mae rheoliadau 7(1) ac 8(1) i’w darllen mewn perthynas â P fel pe bai cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”.
(3) Mae’r gofyniad ynysu sydd wedi ei osod ar P yn rhinwedd rheoliad 7(1) neu 8(1) fel y’i haddesir gan baragraff (2), hefyd wedi ei osod ar bob aelod o aelwyd P.
(4) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.
(5) Nid yw aelod o aelwyd P wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).
(6) Yn unol â hynny nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.
(7) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai P oedd y person hwnnw.
(8) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (7)) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw—“
(4) Caiff P adael y fangre a bod y tu allan iddi—
(a) cyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(i) i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hynny ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(ii) i osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol;
(iii) i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(b) os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan gwnstabl;
(c) i deithio at ddiben gadael Cymru.”
12F. 

(1) Ni chaiff y person sy’n rheoli awyren neu lestr neu sydd â rheolaeth dros awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf yn wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A beri na chaniatáu i’r awyren neu’r llestr gyrraedd Cymru, oni bai bod gwneud hynny yn rhesymol angenrheidiol er mwyn sicrhau—
(a) diogelwch yr awyren neu’r llestr, neu
(b) iechyd a diogelwch unrhyw berson ar ei bwrdd neu ar ei fwrdd.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
(a) awyren a weithredir yn fasnachol neu lestr a weithredir yn fasnachol nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;
(b) awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig neu i’w chefnogi;
(c) awyren neu lestr a oedd mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ddiweddaf 11 o ddiwrnodau neu ragor cyn cyrraedd Cymru.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “cyrraedd” yw—
(i) mewn perthynas ag awyren, glanio;
(ii) mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan;
(b) ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw neu o’i griw.”
(3) Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder—“
ATODLEN 3A
Rheoliadau 12E a 12F


 Gweriniaeth Angola
 Gweriniaeth Botswana
 Gweriniaeth De Affrica
 Gweriniaeth Malaŵi
 Gweriniaeth Mauritius
 Gweriniaeth Mozambique
 Gweriniaeth Namibia
 Gweriniaeth Seychelles
 Gweriniaeth Zambia
 Gweriniaeth Zimbabwe
 Teyrnas Eswatini
 Teyrnas Lesotho
”.
RHAN 5
8 

(1) Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 4(7).
(3) Yn rheoliad 11A—
(a) yn y pennawd, yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwledydd penodol”;
(b) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020” rhodder “4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020” rhodder “4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021”;
(iii) yn is-baragraff (c), yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwlad restredig”;
(c) ym mharagraff (2), yn lle “y gadawodd P De Affrica” rhodder “yr oedd P mewn gwlad restredig ddiwethaf”;
(d) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig —
(a) Teyrnas Eswatini;
(b) Teyrnas Lesotho;
(c) Gweriniaeth Angola;
(d) Gweriniaeth Botswana;
(e) Gweriniaeth Malaŵi;
(f) Gweriniaeth Mauritius;
(g) Gweriniaeth Mozambique;
(h) Gweriniaeth Namibia;
(i) Gweriniaeth Seychelles;
(j) Gweriniaeth Zambia;
(k) Gweriniaeth Zimbabwe.”
(4) Yn rheoliad 11B—
(a) yn y pennawd, yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwledydd penodol”;
(b) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “neu risg arall o niwed difrifol” rhodder “, risg arall o niwed difrifol neu i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol”.
(5) Yn rheoliad 38(c), yn y testun Saesneg, ar ôl “(2)” mewnosoder “of”.
(6) Yn rheoliad 57(1)(t)(i), yn lle “, o fewn unrhyw ardal Haen 4 neu o fewn unrhyw ardal lle y gosodir cyfyngiadau llymach na’r rhai sy’n gymwys yn yr ardal Haen 3” rhodder “neu o fewn yr ardal Haen 4”.
(7) Ym mharagraff 48 o Atodlen 4, yn lle “, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos” rhodder “a chartrefi arddangos”.
(8) Hepgorer Atodlen 6.
RHAN 6
9 
Yn rheoliad 14 (troseddau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yn y testun Cymraeg, yn is-baragraff (1)(c) hepgorer “neu”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 4.07 p.m. ar 8 Ionawr 2021