
RHAN 1
Cyffredinol
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad” (“market stability report”) yw’r adroddiad y mae’n ofynnol ei lunio a’i gyhoeddi o dan adran 144B o’r Ddeddf;
 ystyr “asesiad poblogaeth” (“population assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol ei gynnal o dan adran 14(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 mae i “gofal a chymorth” (“care and support”) yr un ystyr ag a roddir gan adran 4 o’r Ddeddf;
 mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” (“regulated service”) yr un ystyr ag a roddir gan adran 2(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth” (“the Partnership Arrangements Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015.
RHAN 2
Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad
2 
Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad gynnwys asesiad o’r materion hynny a bennir yn yr Atodlen.
3 
Rhaid asesu digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth dros y cyfnod ers cyhoeddi’r asesiad poblogaeth blaenorol.
4 

(1) Rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad erbyn 1 Mehefin 2022.
(2) Rhaid cyhoeddi adroddiadau dilynol ar sefydlogrwydd y farchnad bob 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf ar sefydlogrwydd y farchnad.
5 
Rhaid cyhoeddi’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad mewn fformat electronig.
RHAN 3
Diwygio’r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth
6 
Yn y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth, ar ôl rheoliad 18 mewnosoder—“
18A. 

(1) Rhaid i’r cyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol bennu’r trefniadau ar gyfer cyflawni ar y cyd y swyddogaethau adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddogaethau adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad” yw’r swyddogaethau penodedig a roddir i awdurdodau lleol gan adran 144B o’r Ddeddf.”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2021
YR ATODLEN
Rheoliad 2
1 
Asesiad o ddigonolrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth sy’n cynnwys unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth i ddiwallu’r anghenion a nodir yn yr asesiad poblogaeth diweddaraf.
2 
Asesiad o ansawdd cyffredinol y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan wasanaethau rheoleiddiedig wrth ddiwallu anghenion a chyflawni canlyniadau personol pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a’r gofalwyr hynny y mae angen cymorth arnynt.
3 
Asesiad o’r tueddiadau cyfredol neu ddatblygol yn y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth a’u heffaith ar ddigonolrwydd, ansawdd neu sefydlogrwydd y gwasanaethau hynny.
4 
Asesiad o unrhyw heriau sylweddol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol i ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth.
5 
Asesiad o effaith comisiynu a chyllido ar ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth, gan gynnwys dulliau rhanbarthol a defnyddio cronfeydd cyfun.