
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Rhagfyr 2021.
2 

(1) Mae Atodlen 5 (cymhwyso Rhan 3, ei rhanddirymu a’i haddasu, mewn perthynas â thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig) i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 5 (rhanddirymu rheoliad 14: amseru hysbysiad mewnforio)—
(a) yn is-baragraff (3)—
(i) yn lle “O 1 Ionawr 2022” rhodder “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3A), o 1 Ionawr 2022”;
(ii) ar ôl “cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid” mewnosoder “neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad yw is-baragraff (2)(c) eisoes yn ymdrin â hwy”;
(b) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i nwyddau perthnasol—
(a) sydd o fewn cwmpas Erthygl 7 neu Erthygl 10 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sydd wedi eu hesemptio rhag rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bersonau naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad; neu
(b) a fewnforir i Brydain Fawr o Weriniaeth Iwerddon pan fodlonir yr amod ym mharagraff (3B).
(3B) Yr amod yw fod y nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon neu yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac at y dibenion hyn cymerir bod nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon neu yng Ngweriniaeth Iwerddon os ydynt wedi eu prosesu yno.”
(3) Yn lle paragraff 8(a) (addasu rheoliad 20: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – cynhyrchion) rhodder—“
(a) ym mharagraff (1)—
(i) “yw gwiriadau” wedi ei roi yn lle “yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin”;
(ii) “neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol””.
(4) Yn lle paragraff 9 (addasu rheoliad 23: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – anifeiliaid) rhodder—“Mae rheoliad 23 yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (1)—
(a) “yw gwiriadau” wedi ei roi yn lle “yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin”;
(b) “neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5,” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol””.
3 
Yn rheoliad 3(1) (addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021, yn lle “31 Rhagfyr 2021” rhodder “30 Mehefin 2022”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
Am 11.03 a.m. ar 22 Rhagfyr 2021