
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 24) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.00 a.m. ar 22 Rhagfyr 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020  wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5, hepgorer paragraff (1A).
(3) Hepgorer rheoliad 9A.
(4) Yn rheoliad 10—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “, 8(2) neu 9A(2)” rhodder “neu 8(2)”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “, 8(2) a 9A(2)” rhodder “ac 8(2)”;
(c) hepgorer paragraff (6ZA).
(5) O flaen rheoliad 11 mewnosoder—“
10B. 

(1) Pan—
(a) bo’n ofynnol i oedolyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r oedolyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 8(2) (y “gofyniad i ynysu”) yn union cyn 22 Rhagfyr 2021,
(b) bo’r gofyniad i ynysu yn gymwys i’r oedolyn oherwydd cymhwysiad rheoliad 10(6ZA) neu reoliad 11(1A), ac
(c) bo diwrnod olaf ynysiad yr oedolyn (fel y’i pennir yn unol â rheoliad 8(4) neu (5)) ar 22 Rhagfyr 2021 neu’n ddiweddarach,
mae’r gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i’r oedolyn ar ddechrau 22 Rhagfyr 2021.
(2) Pan—
(a) bo’n ofynnol i blentyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r plentyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 9A(2) (y “gofyniad i ynysu”) yn union cyn 22 Rhagfyr 2021, a
(b) bo diwrnod olaf ynysiad y plentyn (fel y’i pennir yn unol â rheoliad 9A(4) neu (5)) ar 22 Rhagfyr 2021 neu’n ddiweddarach,
mae’r gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i’r plentyn ar ddechrau 22 Rhagfyr 2021.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at reoliadau 9A, 10(6ZA) ac 11(1A) yn gyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 22 Rhagfyr 2021.”
(6) Yn rheoliad 11, hepgorer paragraff (1A).
(7) Yn rheoliad 12, hepgorer “neu 9A(2)”.
(8) Yn rheoliad 13(1)(a), yn lle “, 8(1) neu 9A(1)” rhodder “neu 8(1)”.
(9) Hepgorer rheoliad 13A.
(10) Yn rheoliad 14(2)(a)—
(a) yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “, 8(2) neu 9A(2)” rhodder “neu 8(2)”;
(b) ym mharagraff (ii), yn lle “, 8(1) neu 9A(1)” rhodder “neu 8(1)”;
(c) ym mharagraff (iii), yn lle “, 8 neu 9A” rhodder “neu 8”.
(11) Yn rheoliad 30, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “, 8(2) neu 9A(2)” rhodder “neu 8(2)”.
(12) Yn rheoliad 40—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer “, 9A(2)”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “, 8(3) neu 9A(3)” rhodder “neu 8(3)”;
(b) ym mharagraff (2)(a), yn lle “, 8(3) neu 9A(3)” rhodder “neu 8(3)”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
21 Rhagfyr 2021