
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2022.
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.
3 
Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—
(a) y gyfradd safonol yw £98.60 y dunnell,
(b) y gyfradd is yw £3.15 y dunnell, ac
(c) y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £147.90 y dunnell.
4 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020, ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2022”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Rhagfyr 2021