
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 4) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2021.
2 
Ym mharagraff 1(1)(b)(ii) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (ystyr “the relevant period” o ran Cymru), yn lle “31 December 2021” rhodder “24 March 2022”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2021