
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Chwefror 2022.
2 

(1) Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 15 (athro-lywodraethwyr), ym mharagraff (4)—
(a) daw’r geiriau o “unrhyw berson” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a), a
(b) ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“; neu
(b) ffederasiwn sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig.”
(3) Yn rheoliad 16 (staff-lywodraethwyr), ym mharagraff (4)—
(a) daw’r geiriau o “unrhyw berson” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a), a
(b) ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“; neu
(b) ffederasiwn sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2021