
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2021.
2 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 22 mewnosoder—“
23. 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a) i’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2), 10(2) ac 11(2);
(b) i’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;
(c) i’r ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol yn erthygl 13(1);
(d) i’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14(2);
(e) i’r ddyletswydd i roi hysbysiad ADY yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 14(3).
(2) Nid yw’r ddyletswydd neu’r pŵer yn gymwys os yw’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol priodol (yn ôl y digwydd) yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.”
3 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 20 mewnosoder—“
21. 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a) i’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2), 10(2) ac 11(2);
(b) i’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;
(c) i’r ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1);
(d) i’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14(2).
(2) Nid yw’r ddyletswydd neu’r pŵer yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
14 Rhagfyr 2021