
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Disgyblion Ysgol Anabl) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Ionawr 2022.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2010” yw Deddf Cydraddoldeb 2010.
(4) Mae i eiriau ac ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 2010 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
2 

(1) Wrth wneud trefniadau o dan baragraff 6B(1) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 i ddarparu cyngor a gwybodaeth i ddisgyblion ysgol anabl yn ei ardal, ac i gyfeillion achos disgyblion o’r fath, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod y cyngor a’r wybodaeth hefyd yn cael eu darparu i rieni disgyblion ysgol anabl yn ei ardal.
(2) Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor a’r wybodaeth gynnwys y canlynol—
(a) hawliau disgyblion ysgol anabl o dan Ddeddf 2010 sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion,
(b) dyletswyddau’r awdurdod lleol o dan Ddeddf 2010 sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion,
(c) sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer datrys anghydfodau,
(d) sut i gael mynediad at wasanaethau eirioli annibynnol, ac
(e) sut i ddod â hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd gerbron Tribiwnlys Addysg Cymru.
(3) Rhaid i’r trefniadau sicrhau bod y cyngor a’r wybodaeth—
(a) yn glir, yn ffeithiol ac yn gywir, a
(b) yn cael eu cadw’n gyfredol.
3 
Cyn penodi person at ddibenion paragraff 6C(2) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, rhaid i awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod y person y mae’n bwriadu ei benodi—
(a) yn ddigon gwybodus ynghylch pwnc Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010, a
(b) yn annibynnol ar yr awdurdod lleol a’r personau sy’n ymwneud ag unrhyw anghydfod.
4 

(1) Cyn gwneud trefniadau â darparwr at ddibenion paragraff 6D o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, rhaid i awdurdod lleol fod wedi ei fodloni—
(a) bod y darparwr yn ddigon gwybodus ynghylch pwnc Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010,
(b) bod y darparwr yn meddu ar y sgiliau y mae eu hangen i gyfathrebu’n effeithiol â disgyblion ysgol anabl, gan gynnwys y rheini sydd ag anawsterau cyfathrebu,
(c) nad yw’r darparwr ar y rhestr wahardd ar gyfer plant, neu, yn achos darparwr sy’n gweithio gyda phobl ifanc, y rhestr wahardd ar gyfer oedolion, a
(d) y bydd y darparwr yn cadw cofnodion cyfrinachol o’r gwasanaethau a ddarperir o dan y trefniant.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) ystyr “darparwr” yw person sy’n darparu gwasanaethau eirioli annibynnol,
(b) ystyr “rhestr wahardd ar gyfer plant” a “rhestr wahardd ar gyfer oedolion” yw’r rhestrau a gynhelir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2021