
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021.
(2) Daw rheoliad 2(2) i rym ar 15 Rhagfyr 2021.
(3) Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym ar 11 Rhagfyr 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16A—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder “neu”;
(ii) hepgorer “neu” ar ôl is-baragraff (c);
(iii) hepgorer is-baragraff (d);
(b) hepgorer paragraff (7).
(3) Yn rheoliad 20, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) At ddibenion paragraff (1), nid yw—
(a) awditoriwm theatr, sinema neu neuadd gyngerdd, na
(b) ardal wylio arena neu stadiwm o dan do,
i’w trin fel mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.
(6) At ddibenion paragraff (1), mae cerbyd i’w drin fel ardal gyhoeddus o dan do mangre pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer—
(a) hyfforddiant am dâl mewn gyrru car modur yn unol ag adran 123 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, neu
(b) prawf cymhwysedd gyrru fel y disgrifir “test of competence to drive” yn adran 89(1)(a)(i) o’r Ddeddf honno.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.43 p.m. ar 10 Rhagfyr 2021