
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Powys.
2 

(1) Mae’r Tabl yn yr Atodlen (enwau ac ardaloedd wardiau etholiadol a nifer aelodau’r cyngor) i Orchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llandrinio, yn lle “Cymuned Llandrinio” rhodder “Cymunedau Llandrinio, a Bausley gyda Chrugion”.
(3) Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llandysilio, yn lle “Cymuned Llandysilio” rhodder “Cymunedau Llandysilio a Charreghwfa”.
(4) Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llansanffraid, yn lle “Cymuned Llansanffraid” rhodder “Cymunedau Llansanffraid a Llanfechain”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2021