
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2022.
2 
Yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014, ar ôl rheoliad 15 mewnosoder—“
16. 

(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad gwella mewn cysylltiad â gwin Atodiad 15 yr UE (gan gynnwys gwin Atodiad 15 yr UE a labelwyd ar 1 Mai 2021 neu ar ôl hynny) a roddir ar y farchnad yng Nghymru—
(a) gan gyfanwerthwr neu gynhyrchwr yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2022 ac sy’n dod i ben ar 1 Mai 2023;
(b) gan fanwerthwr ar 1 Ionawr 2022 neu ar ôl hynny hyd nes bydd y stociau o win Atodiad 15 yr UE wedi eu disbyddu.
(2) Yn y rheoliad hwn—
 mae “a roddir ar y farchnad” (“placed on the market”) i’w ddehongli gan gymryd i ystyriaeth y diffiniad o “placing on the market” ym mhwynt 8 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;
 mae i “y Cytundeb Masnach a Chydweithredu” yr un ystyr a roddir i “the Trade and Cooperation Agreement” yn adran 37(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020;
 ystyr “gwin Atodiad 15 yr UE” (“EU Annex 15 wine”) yw gwin—
(a) y mae Erthygl 5 (mesurau trosiannol) o Atodiad 15 (masnachu gwin) i’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, fel y’i darllenir gydag Erthygl 1(1) (cwmpas) o’r Atodiad hwnnw, yn gymwys iddo, a
(b) a gaiff ei fewnforio i Brydain Fawr o Aelod-wladwriaeth;ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2021