RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2021.
RHAN 2
PENNOD 1
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
3 
Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(i) mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;
(ii) yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii) ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—“
(v) sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”
(iii) ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—“
(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a) Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
(b) ym mharagraff 2A(1)(a) a (b), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” ym mhob achos rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(c) ym mharagraff 3(1)(a)(iv)—
(i) ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(ii) ym mharagraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;
(iii) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a) Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
PENNOD 3
4 
Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (1)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;
(b) ym mharagraff (1B), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.
5 
Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraffau (1)(b)(i) ac (c)(i), ym mhob achos ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.
6 
Yn rheoliad 6 —
(a) ym mharagraffau (2)(a) a (3)(a), ym mhob achos ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;
(b) ym mharagraff (5), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.
7 
Yn rheoliad 7—

8 
Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraffau (1)(a) a (2)(a), ym mhob achos ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.
9 
Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 9B mewnosoder—“
9BA. 

(1) Person—
(a) sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs;
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE; neu
(ii) yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;
(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â rheoliad 2(4).
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “tiriogaethau tramor yr UE” yw Aruba; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); St Barthélemy; St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; a Wallis a Futuna.”
RHAN 3
PENNOD 1
10 
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
11 
Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(i) mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;
(ii) yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—“
(iv) sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”;
(iii) ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—“
(2) Ym mharagraff (1)(iv) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a) Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
(b) ym mharagraff 2A(1)(a) a (b), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” ym mhob achos rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(c) ym mharagraff 3—
(i) yn is-baragraff (1)(a)(iii)(bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;
(ii) yn is-baragraff (1)(a)(iii)(cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;
(iii) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iii), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a) Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
PENNOD 3
12 
Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (3A), yn lle “paragraff 8A neu 9B” rhodder “paragraff 8A, 9B neu 9BA”;
(b) ym mharagraff (9)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
13 
Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 9B mewnosoder—“
9BA. 

(1) Person—
(a) sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE, neu
(ii) yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE;
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig;
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) wedi bod yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â pharagraff 1(3).
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “tiriogaethau tramor yr UE” yw Aruba; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); St Barthélemy; St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; a Wallis a Futuna.”
RHAN 4
PENNOD 1
14 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
15 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(i) mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad;
(ii) yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—“
(v) sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”;
(b) ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—“
(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a) Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
16 
Yn rheoliad 4(10E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
17 
Yn rheoliad 81(10E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
18 
Yn rheoliad 110(12E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
19 
Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 2A—
(i) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(ii) yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);
(iii) ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—“
(e) na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn y cwrs presennol.”
(b) ym mharagraff 3—
(i) yn is-baragraff (1)(a)(iv)(bb) ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(ii) yn is-baragraff (1)(a)(iv)(cc) ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(iii) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a) Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
(c) ym mharagraff 9C(1), hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d), ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(e) na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol.”
PENNOD 3
20 
Yn rheoliad 4(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
21 
Yn rheoliad 23(2), ar ôl “9A,” mewnosoder “9BA,”.
22 
Yn rheoliad 41(3), ar ôl “9A,” mewnosoder “9BA,”.
23 
Yn rheoliad 81(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
24 
Yn rheoliad 110(3)(a)(i), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
25 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 9B mewnosoder—“
9BA. 

(1) Person—
(a) sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu
(ii) yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd—
(i) yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu
(ii) yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).”
26 
Yn Atodlen 4 paragraff (3), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
RHAN 5
PENNOD 1
27 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
28 
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(a) mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;
(b) yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—“
(v) sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”
(c) ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—“
(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a) Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
29 
Yn rheoliad 3(10)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
30 
Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 2A—
(i) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(ii) yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);
(iii) ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—“
(e) na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
(b) ym mharagraff 3(1)(a)(iv)—
(i) ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(ii) ym mharagraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(iii) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a) Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”;
(c) ym mharagraff 9C(1), hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d), ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(e) na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
PENNOD 3
31 
Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
32 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 9B, mewnosoder—“
9BA. 
Person—
(a) sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu
(ii) yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).”
RHAN 6
PENNOD 1
33 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
34 
Yn rheoliad 23E(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
35 
Yn Atodlen 1 paragraff 6(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(a) mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1);
(b) yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—“
(v) sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”;
(c) ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—“
(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a) Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio yn ystod y cyfnod pontio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
36 
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1—
(a) yn is-baragraff (2)(a)(iv)—
(i) ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;
(ii) yn is-baragraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;
(b) yn is-baragraff (3)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(ii) ym mharagraff (c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd y paragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd paragraff (d);
(iii) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(e) na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn y cwrs presennol”.
(c) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(5) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a) Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,
(b) Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu
(c) Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
37 
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6C hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d), ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(e) na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
38 
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 13E(a)(i) yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
PENNOD 3
39 
Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “6B,” mewnosoder “6BA,”.
40 
Yn rheoliad 10(1), yn eithriad 8 ar ôl “6B” mewnosoder “, 6BA”.
41 
Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 6B mewnosoder—“
6BA. 

(1) Person—
(a) sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir, neu
(ii) yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c) sydd—
(i) yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii) yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 9(2).”
42 
Yn Atodlen 4—
(a) ym mharagraff 4(1)(a)(i), ar ôl “6B,” mewnosoder “6BA,”;
(b) ym mharagraff 5(1), yn eithriad 7 yn lle “5A neu 6B” rhodder “5A, 6B neu 6BA”.
RHAN 7
PENNOD 1
43 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
44 
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(a) mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad;
(b) yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—“
(v) sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”
(c) ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—“
(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a) Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
45 
Yn rheoliad 3(11)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
46 
Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 2A—
(i) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(ii) yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);
(iii) ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—“
(e) na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
(b) ym mharagraff 3(1)(a)(iv)—
(i) ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;
(ii) ym mharagraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;
(iii) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a) Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”;
(c) ym mharagraff 10C(1), hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd paragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd paragraff (d), ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—“
(e) na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
PENNOD 3
47 
Yn rheoliad 3—
(a) ym mharagraff (2)(a), ar ôl “10B,” mewnosoder “10BA,”;
(b) ym mharagraff (2B), yn lle “9A, 10B neu 10D” rhodder “9A, 10B, 10BA neu 10D”.
48 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 10B, mewnosoder—“
10BA. 

(1) Person—
(a) sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu
(ii) yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).”
RHAN 8
PENNOD 1
49 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
50 
Yn rheoliad 12A(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
51 
Yn Atodlen 1, paragraff 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(a) mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;
(b) yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (a)(iii), ac ar ôl paragraff (a)(iv), mewnosoder—“
(v) sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion, neu”;
(c) ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—“
(2) Yn is-baragraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a) Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,
(b) Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu
(c) Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
52 
Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 1—
(i) yn is-baragraff (2)(a)(iv)—(aa) ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;(bb) yn is-baragraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (5)”;
(ii) yn is-baragraff (3)—(aa) ym mharagraff (a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;(bb) ym mharagraff (c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd y paragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);(cc) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(e) na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
(iii) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(5) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a) Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,
(b) Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu
(c) Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
53 
Ym mharagraff 8C, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d), ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(e) na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.”
PENNOD 3
54 
Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “8B,” mewnosoder “8BA,”.
55 
Yn rheoliad 10(1), yn eithriad 12 ar ôl “8B” mewnosoder “, 8BA”.
56 
Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 8B mewnosoder—“
8BA. 

(1) Person—
(a) sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir, neu
(ii) yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c) sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(5).”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
1 Rhagfyr 2021