
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5—
(a) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Yn y Rhan hon—
(a) ystyr “person y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron neu a all fod yn amrywiolyn Omicron” yw—
(i) person sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ac y mae profi moleciwlaidd (gan gynnwys profion PCR, genoteipio neu ddilyniannu) wedi nodi bod yr amrywiolyn Omicron ar y person, neu
(ii) person sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ac y mae un o’r canlynol yn gymwys—(aa) mae profi moleciwlaidd (gan gynnwys profion PCR, genoteipio neu ddilyniannu) wedi nodi ei bod yn debygol bod yr amrywiolyn Omicron ar y person, neu(bb) mae’r amgylchiadau yn golygu ei bod yn rhesymol i swyddog olrhain cysylltiadau amau bod yr amrywiolyn Omicron ar y person;
(b) ystyr “amrywiolyn Omicron” yw’r amrywiolyn SARS-CoV-2 sydd wedi ei ddynodi’n B.1.1.529 gan Sefydliad Iechyd y Byd.”
(b) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) At ddibenion rheoliadau 6 a 7, mae “swyddog olrhain cysylltiadau” yn cynnwys—
(a) Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(b) yr Ysgrifennydd Gwladol.”
(3) O flaen rheoliad 10 mewnosoder—“
9A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron neu a all fod yn amrywiolyn Omicron.
(2) Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 yn gymwys.
(3) Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae P yn byw.
(4) Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth P i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(5) Ond pan fo P yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad P yw—
(a) pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, neu
(b) pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.”
(4) Yn rheoliad 10—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “neu 8(2)” rhodder “, 8(2) neu 9A(2)”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “ac 8(2)” rhodder “, 8(2) a 9A(2)”;
(c) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(6ZA) Ond nid yw paragraffau (5) a (6) yn gymwys pan fo’r swyddog olrhain cysylltiadau sy’n rhoi’r hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) hefyd yn hysbysu’r person mai â pherson y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron neu a all fod yn amrywiolyn Omicron yr oedd y cysylltiad agos.”
(5) Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddog olrhain cysylltiadau sy’n rhoi’r hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) hefyd yn hysbysu’r person mai â pherson y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron neu a all fod yn amrywiolyn Omicron yr oedd y cysylltiad agos.”
(6) Yn rheoliad 12, ar ôl “reoliad 7(2)” mewnosoder “neu 9A(2)”.
(7) Yn rheoliad 13(1)(a), yn lle “neu 8(1)” rhodder “, 8(1) neu 9A(1)”.
(8) Ar ôl rheoliad 13 mewnosoder—“
13A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau—
(a) wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 10(6ZA) neu 11(1A) mai â pherson y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron neu a all fod yn amrywiolyn Omicron yr oedd cysylltiad agos person (“yr hysbysiad gwreiddiol”), ond
(b) yn hysbysu derbynnydd yr hysbysiad gwreiddiol wedi hynny fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.
(2) Mae hysbysiad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei roi (a gall yr esemptiadau yn rheoliadau 10(5) a (6) ac 11 fod yn gymwys).”
(9) Yn rheoliad 14(2)(a)—
(a) yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “neu 8(2)” rhodder “, 8(2) neu 9A(2)”;
(b) ym mharagraff (ii), yn lle “neu 8(1)” rhodder “, 8(1) neu 9A(1)”;
(c) ym mharagraff (iii), yn lle “neu 8” rhodder “, 8 neu 9A”.
(10) Yn rheoliad 30, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “neu 8(2)” rhodder “, 8(2) neu 9A(2)”.
(11) Yn rheoliad 40—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “8(2)” mewnosoder “, 9A(2)”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “neu 8(3)” rhodder “, 8(3) neu 9A(3)”;
(b) ym mharagraff (2)(a), yn lle “neu 8(3)” rhodder “, 8(3) neu 9A(3)”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.12 p.m. ar 2 Rhagfyr 2021