
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(4) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “corff”, ar ôl “neu gyngor bwrdeistref sirol” mewnosoder “, cyd-bwyllgor corfforedig”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
(3) Yn rheoliad 3(1) (safonau sy’n benodol gymwys), ar ôl “cynghorau bwrdeistref sirol” mewnosoder “, cyd-bwyllgor corfforedig”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 9.40 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021