
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2 

(1) Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (9), yn y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus”, ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod lleol” mewnosoder “, cyd-bwyllgor corfforedig”.
(3) Yn is-adran (10), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 9.30 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021