
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021 a deuant i rym ar y diwrnod y caiff Deddf Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) 2021 ei phasio.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 wedi eu dirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Tachwedd 2021