
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2021.
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
4 
Yn rheoliad 3 (dehongli)—
(a) rhifer y testun presennol yn baragraff (1);
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 “mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;”;“
 “mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 “mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;”;“
 “ystyr “person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);”;“
 “ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—
(1) 
(a) person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—
(i) a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;
(ii) sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;
(iii) sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben; neu
(iv) fel arall sydd â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu
(b) aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;
(2) Ym mharagraff (1)(a)(iv), ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a) Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;”;“
 ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—
(a) paragraff 289B (dioddefwyr trais domestig);
(b) paragraffau D-DVILR.1.1 a D-DVILR.1.2 o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig);
(c) paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog);
(d) paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth);
(e) paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth);
(f) paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth); neu
(g) paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid di-briod neu bartneriaid o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth);”;“
 mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020;”;
(c) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—
(a) Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
5 
Yn rheoliad 6 (myfyrwyr cymwys)—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle “baragraff” rhodder “baragraffau (2B) a”;
(ii) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn fod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—
(i) ym mharagraffau 2A, 4, 6A, 7, 8A, 9A, 9B, 9BA, 9C, 9D, 10A, 11A a 12A yn Rhan 2 o Atodlen 1, neu
(ii) ym mharagraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12 yn Rhan 2 o Atodlen 1, pan fo paragraff (2A) yn gymwys.
(2A) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a) mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2022, Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth gan berson (“A”), wedi penderfynu bod A wedi dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12 yn Rhan 2 o Atodlen 1 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2022; a
(b) A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw, neu gwrs dynodedig y mae statws A fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo iddo o’r cwrs hwnnw yn unol â’r Rhan hon.
(2B) Mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraff (2)(b) yn cael effaith fel pe na bai’n crybwyll paragraffau 8A, 9B, 9BA a 9D.”;
(b) ym mharagraff (8), yn lle “(9) a (10)” mewnosoder “(2B) a (9) i (10D)”;
(c) ar ôl paragraff (10A) mewnosoder—“
(10B) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â hawliau a ddiogelir sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad—
(i) â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol; neu
(ii) â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b) ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn dechrau, nad oes gan A ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio ac nad oes unrhyw ganiatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei roi o dan y rheolau hynny,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(10C) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd Calais, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b) y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd Calais aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(10D) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y faith ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir neu’n blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b) y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros fel partner a ddiogelir aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(10E) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod—
(i) yn dod o fewn paragraff (a)(iii), (iv) neu (v) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”; neu
(ii) yn bodloni’r amodau ym mharagraff 3(1)(a)(iii) neu (iv) yn Rhan 2 o Atodlen 1,
yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, a
(b) ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd yn dechrau, nad yw A yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
6 
Yn rheoliad 9 (trosglwyddo cymhwystra), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sy’n fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 6(2)(b)(ii) ond pan na fo statws y person hwnnw fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo ar neu ar ôl 1 Medi 2022 o’r cwrs dynodedig y cyfeirir ato yn rheoliad 6(2A)(a) i gwrs dynodedig arall.”
7 
Yn rheoliad 15(2) (grantiau at gostau byw a chostau eraill), yn lle’r geiriau o “paragraff 9” hyd at y diwedd rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.”
8 
Yn rheoliad 17(2) (lwfans myfyriwr anabl), yn lle’r geiriau o “paragraff 9” hyd at y diwedd rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.”
9 
Yn rheoliad 20(3) (grant dibynyddion mewn oed), yn lle’r geiriau o “paragraff 9” hyd at y diwedd rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.”
10 
Yn rheoliad 22(2) (lwfans dysgu rhieni), yn lle’r geiriau o “paragraff 9” hyd at y diwedd rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.”
11 

(1) Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn:
(2) Ym mharagraff 1 (dehongli)—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) hepgorer y diffiniad o “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”, “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE”, “hawl i breswylio’n barhaol” a “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”;
(ii) yn y diffiniad o “aelod o deulu”—(aa) ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig o’r AEE” rhodder “, person hunangyflogedig o’r AEE, neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon sy’n cael ei drin fel gweithiwr mudol o’r AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE yn rhinwedd paragraff 6A(3)”;(bb) ym mharagraff (c), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;(cc) ym mharagraff (d), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;(dd) ym mharagraff (e), yn lle “paragraff 9” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9C a 9D”;
(iii) yn lle’r diffiniad o “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder—“
 mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;”;
(b) ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—“
(5A) At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.”;
(c) yn is-baragraff (7) ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio”;
(d) yn is-baragraff (8)—
(i) ar ôl “Deyrnas Unedig” y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “, y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio”;
(ii) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“(aa) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio;”.
(3) Ym mharagraff 2(1) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;”.
(4) Ar ôl paragraff 2 mewnosoder—“
2A. 

(1) Person—
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio a thrwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).”
(5) Ym mharagraff 3—
(a) rhifer y testun presennol yn is-baragraff (1);
(b) yn lle is-baragraff (1)(a) fel y’i rhifwyd felly rhodder—“
(a) sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn ar y dyddiad perthnasol—
(i) mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;
(ii) o ran y person—(aa) mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;(bb) mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac(cc) byddai’n bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath;
(iii) o ran y person—(aa) mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;(bb) mae’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; a
(iv) o ran y person—(aa) mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;(bb) mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3); ac(cc) mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3); neu
(v) mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;”;
(c) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo (fel y diffinnir “immigration rules” yn adran 33(1) o Ddeddf Mewnfudo 1971).
(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a) Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b) Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c) Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
(6) yn lle paragraff 4ZA (personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd) rhodder—“
4ZA. 

(1) Person—
(a) y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir;
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo);
(c) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;
(d) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) sy’n blentyn a ddiogelir;
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) o dan 18 oed; a
(ii) yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd);
(c) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;
(d) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a) ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b) ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw—
(i) person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;
(ii) person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(iii) person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67; neu
(iv) person sydd â chaniatâd Calais;
(c) ystyr “plentyn a ddiogelir” yw—
(i) plentyn i—(aa) person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;(ab) person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; neu(ac) person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(ii) plentyn i briod neu bartner sifil—(aa) person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu(ab) person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(d) ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” yw priod neu bartner sifil—
(i) person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu
(ii) person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth.”
(7) Ar ôl paragraff 4ZA (personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—“
4ZB. 

(1) Person—
(a) y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;
(b) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;
(c) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig;
(d) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir.”
(8) Yn Atodlen 1, hepgorer—
(a) paragraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd); a
(b) paragraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).
(9) Ar ôl paragraff 6 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd), mewnosoder—“
6A. 

(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig, neu weithiwr y ffin o fewn yr ystyr a roddir i “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020—
(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol,
(i) yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE;
(ii) yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;
(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);
(iv) yn weithiwr y ffin o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig y ffin o’r AEE;
(v) yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin; neu
(vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);
(b) sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
(3) Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r AEE neu’n wladolyn o’r AEE yn unig, yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE.”
(10) Ar ôl paragraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall), mewnosoder—“
8A. 

(1) Person—
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
(c) a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn y diriogaeth y mae Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio; neu
(ii) yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth y mae Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;
(d) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(e) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac
(f) a oedd, mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (e) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion derbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (e).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol sydd ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, os yw’r person wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio ac y mae’r person yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.
(3) At ddibenion is-baragraff (2), roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.”
(11) Ym mhennawd paragraff 9 (gwladolion o’r UE), ar y diwedd, mewnosoder “etc.”.
(12) Ar ôl paragraff 9 mewnosoder—“
9A. 

(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig—
(a) sydd ar y dyddiad perthnasol—
(i) yn wladolyn o’r UE;
(ii) yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i); neu
(iii) yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a
(d) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).
9B. 

(1)  Person—
(a) sydd ar y dyddiad perthnasol—
(i) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig; neu
(ii) yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio; neu
(ii) yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).
(3) Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).
9BA. 

(1) Person—
(a) sydd ar y dyddiad perthnasol yn ddinesydd Gwyddelig;
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio, neu
(ii) yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).
9C. 

(1) Person—
(a) sydd ar y dyddiad perthnasol yn aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a
(d) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(7).
9D. 

(1) Person—
(a) sydd ar y dyddiad perthnasol—
(i) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;
(ii) yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;
(iii) yn wladolyn o’r UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu
(iv) yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a
(d) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).”
(13) O flaen paragraff 10 mewnosoder y pennawd—“”.
(14) Ar ôl paragraff 10 mewnosoder—“
10A. 
Person sydd â hawliau gwarchodedig—
(a) sydd ar y dyddiad perthnasol yn wladolyn o’r UE;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn y dyddiad perthnasol; a
(d) mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).”
(15) Ar ôl paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd), mewnosoder—“
11A. 
Person sydd â hawliau gwarchodedig—
(a) sydd ar y dyddiad perthnasol yn blentyn i wladolyn Swisaidd sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a
(d) mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).”
(16) Ar ôl paragraff 12 (plant gweithwyr Twrcaidd), mewnosoder—“
12A. 
Person—
(a) sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
(b) a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i) yn blentyn i T; a
(ii) yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2021