
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 22 Tachwedd 2021.
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli cyffredinol), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” (“EU Digital COVID Certificate”) yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino;”.
4 

(1) Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)—
(a) hepgorer is-baragraff (b);
(b) hepgorer is-baragraff (ba);
(c) yn is-baragraff (c)—
(i) ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—“
(iia) tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd;
(iib) Tystysgrif Gogledd America;”;
(ii) ar y diwedd, mewnosoder “a”;
(d) hepgorer is-baragraff (ca).
(3) Ym mharagraff (4A)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (b), mewnosoder “ac”;
(b) ar ôl is-baragraff (c), hepgorer “a”;
(c) hepgorer is-baragraff (d).
(4) Ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraff (a).
(5) Ym mharagraff (6)—
(a) yn y geiriau agoriadol, hepgorer “naill ai”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii) hepgorer “, neu”;
(c) hepgorer is-baragraff (b).
(6) Yn lle paragraff (7A), rhodder—“
(7A) At ddibenion paragraff (3)—
(a) pan fo P wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;
(b) pan fo P wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw un o’r brechlynnau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d) o’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig.”
(7) Ym mharagraff (8), hepgorer “yn y Deyrnas Unedig”.
(8) Ym mharagraff (10)—
(a) yn y diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”—
(i) yn y geiriau o flaen paragraff (a), hepgorer “a awdurdodwyd”;
(ii) ym mharagraff (a), ar ôl “y Deyrnas Unedig” mewnosoder “, a awdurdodwyd”;
(iii) ym mharagraff (b), ar ôl “ym mharagraff (11),” mewnosoder “a awdurdodwyd”;
(iv) ar ôl paragraff (c) mewnosoder—“
(d) mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—
(i) wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11 neu 13 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 11 Tachwedd 2021, a
(ii) wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (12);”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “Tystysgrif Gogledd America” (“North American Certificate”) yw—
(a) Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);
(b) Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);
(c) WA Verify (talaith Washington);”;
(c) yn y diffiniad o “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor”—
(i) ar ddiwedd paragraff (a), mewnosoder “neu”;
(ii) hepgorer paragraff (b) (gan gynnwys y “neu” ar y diwedd).
(9) Ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Belarws”“
 Bolivia”“
 Ecuador”“
 Gweriniaeth Dominica”“
 Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo”“
 Laos”“
 Libya”“
 Malawi”“
 Mozambique”“
 Samoa”“
 Senegal”“
 Vanuatu”“
 Zambia”“
 Zimbabwe”.
(10) Ar ôl paragraff (12), mewnosoder—“
(12A) Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y Rhan hon—
 Albania
 Armenia
 Gogledd Macedonia
 Israel
 Morocco
 Panama
 Twrci
 Wcrain
 Ynysoedd Ffaro.”
5 

(1) Mae rheoliad 3 (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a) ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder—“
(aa) person a ddisgrifir ym mharagraffau 6 i 10 o Atodlen 2.”
(b) hepgorer is-baragraff (c).
(3) Hepgorer paragraffau (3) a (4).
6 

(1) Mae rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(aa) person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a), (b), (h) neu (k) o Atodlen 2, neu aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person o’r fath;
(bb) person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c), (d), (e), (f), (g), (i) neu (j) o Atodlen 2, neu aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person o’r fath, ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;”.
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “2 i 5, 6A i 16” rhodder “2 i 16”;
(c) hepgorer is-baragraff (c);
(d) yn is-baragraff (d), hepgorer “yn ddarostyngedig i baragraff (3),”.
(3) Hepgorer paragraffau (3) i (6).
7 
Yn rheoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau), hepgorer paragraff (4)(o).
8 
Ym mharagraff 1(2) o Atodlen 2 (personau esempt), yn lle “9(2)(a)” rhodder “9(2)(bb)”.
9 

(1) Mae rheoliad 16A (mesurau penodol sy’n gymwys i leoliadau a mangreoedd lletygarwch ac adloniant penodedig neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (6)—
(a) yn is-baragraff (a), hepgorer paragraff (i) (gan gynnwys yr “a” ar y diwedd);
(b) yn is-baragraff (c)—
(i) yn lle “gan wlad berthnasol” rhodder “ac eithrio yn y Deyrnas Unedig”;
(ii) ar ôl “dystysgrif COVID ddigidol yr UE,” mewnosoder “tystysgrif cofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd,”;
(iii) ar ôl “Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau,” mewnosoder “Tystysgrif Gogledd America”.
(3) Yn lle paragraff (8), rhodder—“
(8) At ddibenion y rheoliad hwn, pan fo person wedi cael cwrs o ddosau sy’n cynnwys un dos o frechlyn awdurdodedig o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor ac un dos o frechlyn awdurdodedig ac eithrio o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod y person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramo”r.
(4) Ym mharagraff (9)(b)—
(a) yn lle’r geiriau o flaen paragraff (i) rhodder—“
(b) mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau—”;
(b) ym mharagraff (i)(bb), hepgorer y “, neu” ar y diwedd;
(c) ym mharagraff (ii), mewnosoder “, neu” ar y diwedd;
(d) ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—“
(iii) os yw’r person wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw frechlyn y cyfeirir ato ym mharagraff (iv) o’r diffiniad o frechlyn awdurdodedig ym mharagraff (10)(a);”.
(5) Ym mharagraff (10)—
(a) yn is-baragraff (a)—
(i) yn y geiriau o flaen paragraff (i), hepgorer “a awdurdodwyd”;
(ii) ym mharagraff (i), yn y geiriau o flaen is-baragraff (aa), yn lle “neu mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12), rhodder “, a awdurdodwyd”;
(iii) ym mharagraff (ii), ar ôl “ym mharagraff (11),” mewnosoder “a awdurdodwyd”;
(iv) ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—“
(iii) mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (i)(aa) neu (bb) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;
(iv) mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—(aa) wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11 neu 13 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 11 Tachwedd 2021, a(bb) wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (12);”;
(b) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino;”;
(c) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(ca) ystyr “Tystysgrif Gogledd America” yw—
(i) Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);
(ii) Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);
(iii) WA Verify (talaith Washington);”.
(6) Ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Belarws”“
 Bolivia”“
 Ecuador”“
 Gweriniaeth Dominica”“
 Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo”“
 Laos”“
 Libya”“
 Malawi”“
 Mozambique”“
 Samoa”“
 Senegal”“
 Vanuatu”“
 Zambia”“
 Zimbabwe”.
(7) Ar ôl paragraff (12) mewnosoder—“
(13) Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y rheoliad hwn—
 Albania
 Armenia
 Gogledd Macedonia
 Israel
 Morocco
 Panama
 Twrci
 Wcrain
 Ynysoedd Ffaro.”
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.58 p.m. ar 19 Tachwedd 2021