
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Tachwedd 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym am 23:59 o’r gloch ar y diwrnod cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
 ystyr “presennol” (“existing”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y mae’n bodoli yn union cyn yr amser a’r dyddiad a nodwyd yn erthygl 1(3);
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i Gyngor Sir Fynwy;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 166 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021”, a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “166”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i harbedwyd, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
(2) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf 1972 neu Orchymyn a wnaed o dan adrannau 37(1), 38(1) neu 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
3 
Mae’r rhan o gymuned Llan-ffwyst Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 1—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanwenarth Citra;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Cantref.
4 
Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 2—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Lansdown;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Lansdown.
5 
Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 3—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol y Priordy;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.
6 
Mae’r rhan o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 4—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddewi Rhydderch;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llan-arth.
7 
Mae’r rhannau o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 5 a Map 6—
(a) wedi eu trosglwyddo i gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol y Castell;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Castell.
8 
Mae’r rhan o ward Cantref o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 7—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Llanwenarth Citra o gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Cantref.
9 
Mae’r rhan o ward Cantref o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 8—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Grofield o gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Grofield.
10 
Mae’r rhan o ward y Castell o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 9—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward y Priordy o gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.
11 
Mae’r rhan o ward y Castell o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 10—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Grofield o gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Grofield.
12 
Mae’r rhan o ward y Priordy o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 11—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward y Castell o gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Castell.
13 
Mae’r rhan o ward y Castell o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 12—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward y Priordy o gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.
14 
Mae ward y Castell o gymuned y Fenni fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 13—
(a) wedi ei hailenwi yn Pen-y-fâl;
(b) yn ffurfio ward etholiadol y Castell.
15 
Mae ward etholiadol y Castell fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Pen-y-fâl.
16 
Mae’r rhan o ward y Priordy o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 14—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Grofield o gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Grofield.
17 
Mae’r rhan o ward Grofield o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 15—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Llanwenarth Citra o gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Cantref.
18 
Mae’r rhan o ward Lansdown o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 16—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward y Priordy o gymuned y Fenni;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.
19 
Mae ward y Priordy o gymuned y Fenni fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 17—
(a) wedi ei hailenwi yn y Parc;
(b) yn ffurfio ward etholiadol y Priordy.
20 
Mae ward y Priordy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn y Parc.
21 
Yng nghymuned y Fenni, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Grofield yw 4;
(b) ward Llanwenarth Citra yw 1;
(c) ward y Parc yw 3;
(d) ward Pen-y-fâl yw 3.
22 
Mae’r rhannau o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 18—
(a) wedi eu trosglwyddo i gymuned Caer-went;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Saint-y-brid;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
23 
Mae’r rhannau o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 19—
(a) wedi eu trosglwyddo i gymuned Rogiet;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.
24 
Mae’r rhannau o gymuned Porth Sgiwed a ddangosir â llinellau ar Fap 20—
(a) wedi eu trosglwyddo i gymuned Caer-went;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Crug;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
25 
Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 21—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Caer-went;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Crug;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
26 
Mae’r rhan o ward Saint-y-brid o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 22—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Caer-went o gymuned Caer-went;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
27 
Mae’r rhan o ward Crug o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 23—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Caer-went o gymuned Caer-went;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
28 
Mae’r rhan o ward Crug o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 24—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Dinham o gymuned Caer-went;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
29 
Mae’r rhan o ward Llanfair Disgoed o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 25—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Dinham o gymuned Caer-went;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
30 
Mae’r rhan o ward Llanfair Disgoed o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 26—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Saint-y-brid o gymuned Caer-went;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
31 
Yng nghymuned Caer-went, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Caer-went yw 3;
(b) ward Llanfair Disgoed yw 1;
(c) ward Saint-y-brid yw 1.
32 
Mae’r rhan o gymuned Porth Sgiwed a ddangosir â llinellau ar Fap 27—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Hafren;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
33 
Mae’r rhan o gymuned Rogiet a ddangosir â llinellau ar Fap 28—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol West End;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol West End.
34 
Mae’r rhan o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 29—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.
35 
Mae’r rhan o ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 30—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.
36 
Mae’r rhan o ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 31—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward The Village o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
37 
Mae’r rhan o ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 32—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Hafren o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
38 
Mae’r rhan o ward Llanddewi o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 33—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward West End o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol West End.
39 
Mae’r rhan o ward Llanddewi o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 34—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.
40 
Mae’r rhan o ward Green Lane o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 35—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Llanddewi o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanddewi.
41 
Mae’r rhan o ward Green Lane o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 36—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.
42 
Mae’r rhannau o ward Green Lane o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 37 a Map 38—
(a) wedi eu trosglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
43 
Mae’r rhan o ward Hafren o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 39—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.
44 
Mae’r rhan o ward Hafren o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 40—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
45 
Mae’r rhan o ward West End o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 41—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Hafren o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
46 
Mae’r rhan o ward West End o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 42—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
47 
Mae’r rhan o ward West End o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 43—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
48 
Mae ward gymunedol newydd The Village o gymuned Caldicot wedi ei chreu sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 44;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Hafren.
49 
Mae ward bresennol Green Lane o gymuned Caldicot fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
50 
Mae ward gymunedol newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot wedi ei chreu sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 45;
(b) yn ffurfio ward etholiadol Croes Cil-y-coed.
51 
Yng nghymuned Caldicot, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Croes Cil-y-coed yw 3;
(b) ward Llanddewi yw 3;
(c) ward Hafren yw 2;
(d) ward The Village yw 2.
52 
Mae ward etholiadol bresennol Green Lane wedi ei diddymu.
53 
Mae ward etholiadol newydd Hafren wedi ei chreu sy’n cynnwys ardal wardiau cymunedol Hafren a The Village o gymuned Caldicot.
54 
Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Hafren yw 1.
55 
Mae ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed wedi ei chreu sy’n cynnwys ardal ward gymunedol Caldicot Cross o gymuned Caldicot.
56 
Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Croes Cil-y-coed yw 1.
57 
Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 46—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Larkfield;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
58 
Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 47—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Thornwell;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
59 
Mae’r rhan o gymuned St Arvans a ddangosir â llinellau ar Fap 48—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol St Kingsmark;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
60 
Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 49—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol St Kingsmark;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
61 
Mae’r rhan o ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 50—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Larkfield o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
62 
Mae’r rhan o ward Larkfield o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 51—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
63 
Mae’r rhan o ward Larkfield o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 52—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward St Mary’s o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol St Mary’s.
64 
Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 53—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Larkfield o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
65 
Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 54—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Thornwell o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
66 
Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 55—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Maple Avenue o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
67 
Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 56—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Bulwark o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
68 
Mae’r rhan o ward St Mary’s o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 57—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
69 
Mae’r rhan o ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 58—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
70 
Mae’r rhan o ward St Mary’s o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 59—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
71 
Mae’r rhan o ward Thornwell o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 60—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Maple Avenue o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
72 
Mae’r rhan o ward Thornwell o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 61—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Bulwark o gymuned Cas-gwent;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
73 
Mae ward bresennol St Christophers o gymuned Cas-gwent fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu ac mae ward gymunedol newydd Bulwark wedi ei chreu.
74 
Mae ward gymunedol newydd Bulwark o gymuned Cas-gwent—
(a) yn cynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau ar Fap 62;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
75 
Mae ward gymunedol newydd Maple Avenue o gymuned Cas-gwent wedi ei chreu sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau ar Fap 63;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
76 
Mae ward gymunedol newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent wedi ei chreu sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 64;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
77 
Mae ward bresennol St Mary’s o gymuned Cas-gwent fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 65—
(a) wedi ei hailenwi yn Castell Cas-gwent;
(b) yn ffurfio ward etholiadol newydd Castell Cas-gwent.
78 
Yng nghymuned Cas-gwent, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Larkfield yw 2;
(b) ward Bulwark yw 4;
(c) ward Castell Cas-gwent yw 3;
(d) ward Maple Avenue yw 1;
(e) ward Mount Pleasant yw 3.
79 
Mae ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell wedi ei chreu sy’n cynnwys ardaloedd wardiau cymunedol Bulwark, Maple Avenue a Thornwell o gymuned Cas-gwent.
80 
Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Bulwark a Thornwell yw 2.
81 
Mae ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch wedi ei chreu sy’n cynnwys ardaloedd wardiau cymunedol Mount Pleasant, Larkfield a St Kingsmark o gymuned Cas-gwent.
82 
Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Larkfield a Llangynfarch yw 2.
83 
Mae ward etholiadol St Mary’s wedi ei hailenwi yn Castell Cas-gwent ac mae’n cynnwys ardal ward gymunedol Castell Cas-gwent o gymuned Cas-gwent.
84 
Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Castell Cas-gwent yw 1.
85 
Mae ward etholiadol St Christophers wedi ei diddymu.
86 
Mae’r rhan o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 66—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Grysmwnt;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llangatwg Lingoed;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.
87 
Mae’r rhan o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 67—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Ynysgynwraidd;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Llanwytherin;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
88 
Mae’r rhan o ward Llanfihangel Crucornau o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 68—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Pandy o gymuned Crucornau;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.
89 
Mae ward newydd Cwm-iou wedi ei chreu yng nghymuned Crucornau sydd—
(a) yn cynnwys ardaloedd cyfun wardiau Cwm-iou Uchaf a Chwm-iou Isaf o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 69;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.
90 
Mae ward gymunedol newydd Pandy wedi ei chreu yng nghymuned Crucornau sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 68;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.
91 
Yng nghymuned Crucornau, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Cwm-iou yw 1;
(b) ward Fforest a Ffwddog yw 1;
(c) ward Llanfihangel Crucornau yw 2;
(d) ward Pandy yw 2.
92 
Mae’r rhan o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 70—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Devauden;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Devauden;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
93 
Mae’r rhan o gymuned St Arvans a ddangosir â llinellau ar Fap 71—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Devauden;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddinol;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
94 
Mae’r rhan o gymuned Drenewydd Gelli-farch a ddangosir â llinellau ar Fap 72—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Devauden;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddinol;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
95 
Mae’r rhan o gymuned Devauden a ddangosir â llinellau ar Fap 73—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned St Arvans;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.
96 
Mae’r rhan o ward Llanfihangel Wolvesnewton o gymuned Devauden a ddangosir â llinellau ar Fap 74—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Devauden o gymuned Devauden;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
97 
Mae ward bresennol Llanfihangel Wolvesnewton o gymuned Devauden fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 75—
(a) wedi ei hailenwi yn Llanfihangel Tor-y-Mynydd;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
98 
Yng nghymuned Devauden, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Cilgwrrwg yw 1;
(b) ward Llanfihangel Tor-y-Mynydd yw 1.
99 
Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 76—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Goetre Fawr;
(b) yn ffurfio ward gymunedol Llanofer;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
100 
Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 77—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Goetre Fawr;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Nant-y-Deri;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
101 
Mae’r rhan o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 78—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanbadog;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Monkswood;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanbadog.
102 
Mae’r rhan o ward gymunedol Mamhilad o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 79—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanbadog;
(b) yn ffurfio ward gymunedol Little Mill;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanbadog.
103 
Mae’r rhan o ward Goetre Fawr o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau a’r rhif 1 ar Fap 80—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Nant-y-Deri o gymuned Goetre Fawr;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
104 
Mae’r rhan o ward Goetre Fawr o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau a’r rhif 1 ar Fap 81—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Mamhilad o gymuned Goetre Fawr;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
105 
Mae ward bresennol Goetre o gymuned Goetre Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 82—
(a) wedi ei hailenwi yn Goetre Fawr;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
106 
Mae ward bresennol Mamhilad o gymuned Goetre Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau, ac a rifwyd 1 a 2 ar Fap 81—
(a) wedi ei hailenwi yn Goetre Wharf;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
107 
Mae ward gymunedol newydd Nant-y-Deri wedi ei chreu yng nghymuned Goetre Fawr sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau, a rifwyd 1 a 2 ar Fap 80;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
108 
Yng nghymuned Goetre Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Goetre Wharf yw 2;
(b) ward Goetre Fawr yw 4;
(c) ward Llanofer yw 1;
(d) ward Nant-y-Deri yw 1.
109 
Mae’r rhan o gymuned Grysmwnt a ddangosir â llinellau ar Fap 83—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Ynysgynwraidd;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Llanwytherin;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
110 
Mae ward Llangua o gymuned Grysmwnt a ddangosir â llinellau ar Fap 84—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Grysmwnt o gymuned Grysmwnt;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.
111 
Mae ward bresennol Llangua o gymuned Grysmwnt fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
112 
Yng nghymuned Grysmwnt, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Grysmwnt yw 6.
113 
Mae’r rhannau o gymuned Gwehelog Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 85 a Map 86—
(a) wedi eu trosglwyddo i gymuned Llan-arth;
(b) yn ffurfio ward gymunedol Cemais Comawndwr a Llancayo;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.
114 
Mae’r rhan o gymuned Gwehelog Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 87—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;
(b) yn ffurfio ward gymunedol Gwehelog;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
115 
Mae’r rhan o gymuned Gwehelog Fawr a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 87—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llandenni;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
116 

(1) Mae cymuned bresennol Gwehelog Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
(2) Mae cyngor cymuned Gwehelog Fawr wedi ei ddiddymu.
117 
Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 88—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;
(b) yn ffurfio ward gymunedol Llanfable;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.
118 
Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 89—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddewi Rhydderch;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.
119 
Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 90—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llan-arth;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llan-arth;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Gobion Fawr.
120 
Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 91—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Pen-rhos;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
121 
Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 92—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Rhaglan;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
122 
Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 93—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Rhaglan;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
123 
Mae’r rhan o ward Cleidda o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 94—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Llan-arth o gymuned Llan-arth;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.
124 
Yng nghymuned Llan-arth, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Bryngwyn yw 2;
(b) ward Cleidda yw 1;
(c) ward Cemais Comawndwr a Llancayo yw 2;
(d) ward Llan-arth yw 3.
125 
Yng nghymuned Llanbadog, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Glasgoed yw 2;
(b) ward Little Mill yw 3;
(c) ward Llanbadog yw 2;
(d) ward Monkswood yw 2.
126 
Mae’r rhan o gymuned Llan-ffwyst Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 95—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanelli;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Gilwern;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Bryn Llanelli.
127 
Mae’r rhan o ward Gilwern o gymuned Llanelli a ddangosir â llinellau ar Fap 96—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Clydach o gymuned Llanelli;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Bryn Llanelli.
128 
Mae’r rhan o ward Clydach o gymuned Llanelli a ddangosir â llinellau ar Fap 97—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Gilwern o gymuned Llanelli;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Bryn Llanelli.
129 
Yng nghymuned Llanelli, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Gilwern yw 9.
130 
Mae ward etholiadol Bryn Llanelli fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Llanelli.
131 
Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 98—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llan-ffwyst Fawr;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanelen;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llan-ffwyst Fawr.
132 
Mae’r rhan o ward Llan-ffwyst o gymuned Llan-ffwyst Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 99—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Llanwenarth Tu Draw o gymuned Llan-ffwyst Fawr;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanwenarth Tu Draw.
133 
Mae ward bresennol Llanwenarth Tu Draw o gymuned Llan-ffwyst Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 100—
(a) wedi ei hailenwi yn ward gymunedol Gofilon;
(b) yn ffurfio ward etholiadol Llanwenarth Tu Draw.
134 
Yng nghymuned Llan-ffwyst Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Llan-ffwyst yw 5;
(b) ward Gofilon yw 6.
135 
Mae ward etholiadol bresennol Llanwenarth Tu Draw fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Gofilon.
136 

(1) Mae ardaloedd cymunedau Llangybi a Llanhenwg fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 101 wedi eu cyfuno i ffurfio cymuned Llangybi, sy’n ffurfio rhan o ward etholiadol Llangybi Fawr.
(2) Mae cynghorau cymuned Llangybi a Llanhenwg wedi eu diddymu.
137 
Mae cyngor ar gyfer cymuned Llangybi wedi ei sefydlu.
138 
Mae cymuned Llangybi yn cynnwys chwe ward—
(a) Coed-y-paen;
(b) Llandegfedd;
(c) Llangattock Nigh Caerleon;
(d) Llangybi;
(e) Llanhenwg;
(f) Tredynog.
139 
Yng nghymuned Llangybi, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Coed-y-paen yw 1;
(b) ward Llandegfedd yw 1;
(c) ward Llangattock Nigh Caerleon yw 1;
(d) ward Llangybi yw 3;
(e) ward Llanhenwg yw 1;
(f) ward Tredynog yw 1.
140 
Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 102—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddewi Rhydderch;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Llanofer.
141 
Mae cymuned bresennol Llanofer fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 103—
(a) wedi ei hailenwi yn Gobion Fawr;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.
142 
Mae cymuned Gobion Fawr yn cynnwys pedair ward—
(a) Llanddewi Rhydderch;
(b) Llanfair Cilgydyn;
(c) Llangattock-nigh-Usk;
(d) Llanfable.
143 
Yng nghymuned Gobion Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Llanddewi Rhydderch yw 2;
(b) ward Llanfair Cilgydyn yw 1;
(c) ward Llangattock-nigh-Usk yw 3;
(d) ward Llanfable yw 1.
144 
Mae ward etholiadol Llanofer fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Gobion Fawr.
145 
Mae’r rhan o ward Dwyrain Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 104—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Maerdy.
146 
Mae’r rhan o ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 105—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croesonnen.
147 
Mae’r rhan o ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 106—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croesonnen.
148 
Mae wardiau presennol Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau fel y’u newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 107—
(a) wedi eu cyfuno ac yn ffurfio ward gymunedol Croesonnen;
(b) yn ffurfio ward etholiadol Croesonnen.
149 
Mae’r rhan o ward y Maerdy o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 108—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croesonnen.
150 
Mae’r rhan o ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 109—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward y Maerdy o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Maerdy.
151 
Mae wardiau presennol Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau fel y’u newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 110—
(a) wedi eu cyfuno ac yn ffurfio ward gymunedol Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Maerdy.
152 
Yng nghymuned Llandeilo Bertholau, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Croesonnen yw 6;
(b) ward Ysgyryd yw 2.
153 
Mae’r ardaloedd o gymunedau presennol Llantrisant Fawr a Llan-gwm fel y’u dangosir â llinellau ar Fap 111 wedi eu cyfuno i ffurfio cymuned Llantrisant Fawr.
154 
Mae’r ardaloedd o wardiau Gwernesni a Llantrisant o gymuned Llantrisant Fawr yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llangybi Fawr.
155 
Mae’r ardaloedd o wardiau Llan-gwm a Llan-soe o gymuned Llantrisant Fawr yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
156 
Mae cynghorau cymuned Llantrisant Fawr a Llan-gwm wedi eu diddymu.
157 
Mae cyngor ar gyfer cymuned Llantrisant Fawr wedi ei sefydlu.
158 
Mae cymuned Llantrisant Fawr yn cynnwys pedair ward—
(a) Gwernesni;
(b) Llan-gwm;
(c) Llan-soe;
(d) Llantrisant.
159 
Yng nghymuned Llantrisant Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Gwernesni yw 1;
(b) ward Llan-gwm yw 3;
(c) ward Llan-soe yw 1;
(d) ward Llantrisant yw 3.
160 
Mae’r rhan o ward Salisbury o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 112—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.
161 
Mae’r rhan o ward The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 113—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.
162 
Mae’r rhan o ward Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 114—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.
163 
Mae’r rhan o ward Denny o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 115—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Gorllewin Magwyr.
164 
Mae’r rhan o ward Denny o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 116—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Dwyrain Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.
165 
Mae’r rhan o ward Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 117—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Gorllewin Magwyr.
166 
Mae’r rhan o ward Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 118—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Dwyrain Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.
167 
Mae’r rhan o ward Salisbury o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 119—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Gorllewin Magwyr.
168 
Mae’r rhan o ward The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 120—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gwndy o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.
169 
Mae’r rhan o ward The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 121—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Dwyrain Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.
170 
Mae ward bresennol Denny o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
171 
Mae ward bresennol Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
172 
Mae ward bresennol Salisbury o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
173 
Mae ward bresennol The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
174 
Mae ward gymunedol newydd Gorllewin Magwyr wedi ei chreu yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy sydd—
(a) yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir â llinellau ar Fapiau 115, 117 a 119;
(b) yn ffurfio ward etholiadol Gorllewin Magwyr.
175 
Mae ward gymunedol newydd Dwyrain Magwyr wedi ei chreu yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy sydd—
(a) yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir â llinellau ar Fapiau 116, 118 a 121;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Dwyrain Magwyr.
176 
Mae ward gymunedol newydd Gwndy wedi ei chreu yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy sydd—
(a) yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir â llinellau ar Fap 120;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Dwyrain Magwyr.
177 
Mae cymuned Magwyr gyda Gwndy yn cynnwys tair ward—
(a) Dwyrain Magwyr;
(b) Gorllewin Magwyr;
(c) Gwndy.
178 
Yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Dwyrain Magwyr yw 4;
(b) ward Gorllewin Magwyr yw 3;
(c) ward Gwndy yw 3.
179 
Mae ward etholiadol bresennol Mill fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
180 
Mae ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr wedi ei chreu sy’n cynnwys ardaloedd wardiau Dwyrain Magwyr a Gwndy o gymuned Magwyr gyda Gwndy.
181 
Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Magwyr yw 2.
182 
Mae ward etholiadol bresennol The Elms wedi ei diddymu.
183 
Mae ward etholiadol newydd Gorllewin Magwyr wedi ei chreu sy’n cynnwys ardal ward Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy.
184 
Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Magwyr yw 1.
185 
Mae’r rhan o ward Mounton o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 122—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Pwllmeurig o gymuned Matharn;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.
186 
Yng nghymuned Matharn, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Matharn yw 3.
187 
Mae’r rhan o gymuned Rhaglan a ddangosir â llinellau ar Fap 123—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanfihangel Troddi;
(b) yn ffurfio ward gymunedol Pen-y-clawdd;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanfihangel Troddi.
188 
Mae’r rhan o gymuned Rhaglan a ddangosir â llinellau ar Fap 124—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanfihangel Troddi;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Tre’r-gaer;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanfihangel Troddi.
189 
Mae’r rhan o gymuned Llanfihangel Troddi a ddangosir â llinellau ar Fap 125—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Trefynwy;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol Overmonnow;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Overmonnow.
190 
Mae’r rhan o gymuned Llanfihangel Troddi a ddangosir â llinellau ar Fap 126—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Llanfihangel Ystum Llewern;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
191 
Yng nghymuned Llanfihangel Troddi, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Cwmcarfan yw 1;
(b) ward Llanfihangel Troddi yw 2;
(c) ward Pen-y-clawdd yw 1.
192 
Mae’r rhan o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 127—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
193 
Mae’r rhan o ward y Dref o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 128—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Dixton gydag Osbaston o gymuned Trefynwy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Dixton gydag Osbaston.
194 
Mae’r rhan o ward Dixton gydag Osbaston o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 129—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward y Dref o gymuned Trefynwy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.
195 
Mae’r rhan o ward y Dref o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 130—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Drybridge o gymuned Trefynwy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.
196 
Mae’r rhan o ward Drybridge o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 131—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Overmonnow o gymuned Trefynwy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Overmonnow.
197 
Mae’r rhan o ward Drybridge o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 132—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward y Dref o gymuned Trefynwy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.
198 
Mae’r rhan o ward Overmonnow o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 133—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward y Dref o gymuned Trefynwy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.
199 
Mae ward bresennol Dixton gydag Osbaston o gymuned Trefynwy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 134—
(a) wedi ei hailenwi yn Osbaston;
(b) yn ffurfio ward etholiadol Dixton gydag Osbaston.
200 
Mae ward etholiadol Dixton gydag Osbaston fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Osbaston.
201 
Yng nghymuned Trefynwy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Drybridge yw 4;
(b) ward Osbaston yw 4;
(c) ward Overmonnow yw 3;
(d) ward y Dref yw 4.
202 
Yng nghymuned Trefynwy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Drybridge yw 2.
203 
Mae’r rhan o ward Leechpool o gymuned Porth Sgiwed a ddangosir â llinellau ar Fap 135—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Pentref Porth Sgiwed o gymuned Porth Sgiwed;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Porthsgiwed.
204 
Mae’r rhan o ward Llandenni o gymuned Rhaglan a ddangosir â llinellau ar Fap 136—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Cyncoed o gymuned Rhaglan;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
205 
Mae ward newydd Cyncoed o gymuned Rhaglan wedi ei chreu sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 136;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
206 
Yng nghymuned Rhaglan, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Gwehelog yw 1;
(b) ward Cyncoed yw 1;
(c) ward Llandenni yw 1;
(d) ward Rhaglan yw 6.
207 
Yng nghymuned Rogiet, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros Rogiet yw 7.
208 
Mae’r rhan o gymuned St Arvans a ddangosir â llinellau ar Fap 137—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Drenewydd Gelli-farch;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.
209 
Mae’r rhan o ward Earlswood o gymuned Drenewydd Gelli-farch a ddangosir â llinellau ar Fap 138—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach o gymuned Drenewydd Gelli-farch;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.
210 
Mae’r rhan o ward Drenewydd Gelli-farch o gymuned Drenewydd Gelli-farch a ddangosir â llinellau ar Fap 139—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward newydd Earlswood a’r Eglwys Newydd ar y Cefn o gymuned Drenewydd Gelli-farch;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.
211 
Mae ardal ward bresennol Earlswood o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei chyfuno ag ardal ward bresennol yr Eglwys Newydd ar y Cefn o gymuned Drenewydd Gelli-farch i ffurfio ward gymunedol newydd Earlswood a’r Eglwys Newydd ar y Cefn o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 140.
212 
Mae ardal ward bresennol Drenewydd Gelli-farch o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei chyfuno ag ardal ward bresennol Mynydd-bach o gymuned Drenewydd Gelli-farch i ffurfio ward gymunedol newydd Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 141.
213 
Yng nghymuned Drenewydd Gelli-farch, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Earlswood a’r Eglwys Newydd ar y Cefn yw 2;
(b) ward Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach yw 5.
214 
Mae’r rhan o ward Penterry o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 142—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned St Arvans;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.
215 
Yng nghymuned St Arvans, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros Lanarfan yw 7.
216 
Mae’r rhan o gymuned Tryleg Unedig a ddangosir â llinellau ar Fap 143—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Tyndyrn;
(b) yn ffurfio ward gymunedol Llandogo;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.
217 
Mae’r rhan o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 144—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Tryleg Unedig;
(b) yn ffurfio ward gymunedol Plasdy Tryleg;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Tryleg Unedig.
218 
Mae cymuned bresennol Tyndyrn fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 145—
(a) wedi ei hailenwi yn Dyffryn Gwy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.
219 
Mae’r rhan o ward Penterry o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 146—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Allt y Capel o gymuned Dyffryn Gwy;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.
220 
Mae ward bresennol Allt y Capel o gymuned Dyffryn Gwy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei chyfuno â ward bresennol Tyndyrn Parva o gymuned Dyffryn Gwy i ffurfio ward gymunedol newydd Tyndyrn o gymuned Dyffryn Gwy fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 147.
221 
Mae ward bresennol Penterry o gymuned Dyffryn Gwy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
222 
Yng nghymuned Dyffryn Gwy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Llandogo yw 3;
(b) ward Tyndyrn yw 4.
223 
Mae’r rhan o ward Llanisien o gymuned Tryleg Unedig a ddangosir â llinellau ar Fap 148—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Tref Tryleg o gymuned Tryleg Unedig;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Tryleg Unedig.
224 
Yng nghymuned Tryleg Unedig, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Pen-allt yw 3;
(b) ward Tref Tryleg yw 3;
(c) ward Plasdy Tryleg yw 1.
225 
Mae cymuned newydd Ynysgynwraidd wedi ei chreu sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 149;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
226 
Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Gresynni a ddangosir â llinellau ar Fap 150—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Ynysgynwraidd;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Cross Ash;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
227 
Mae’r rhan o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 151—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Ynysgynwraidd;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Ynysgynwraidd;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
228 
Mae’r rhan o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 152—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Ynysgynwraidd;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Cross Ash;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
229 
Mae ward gymunedol newydd Cross Ash wedi ei chreu yng nghymuned Ynysgynwraidd sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 153;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
230 
Mae ward gymunedol newydd Llanwytherin wedi ei chreu yng nghymuned Ynysgynwraidd sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 154;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
231 
Mae ward gymunedol newydd Ynysgynwraidd wedi ei chreu yng nghymuned Ynysgynwraidd sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 155;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
232 
Mae cyngor ar gyfer cymuned Ynysgynwraidd wedi ei sefydlu.
233 
Mae cymuned Ynysgynwraidd yn cynnwys tair ward—
(a) Cross Ash;
(b) Llanwytherin;
(c) Ynysgynwraidd.
234 
Yng nghymuned Ynysgynwraidd, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Cross Ash yw 3;
(b) ward Llanwytherin yw 2;
(c) ward Ynysgynwraidd yw 2.
235 
Mae cymuned newydd Castell-gwyn wedi ei chreu sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 156;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
236 
Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Gresynni a ddangosir â llinellau ar Fap 157—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Castell-gwyn;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Castell-gwyn;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
237 
Mae’r rhannau o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 158—
(a) wedi eu trosglwyddo i gymuned Castell-gwyn;
(b) yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Castellnewydd;
(c) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
238 
Mae’r rhannau o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 159—
(a) wedi eu trosglwyddo i gymuned Castell-gwyn;
(b) mae’r rhan â arlliwiwyd wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Castellnewydd;
(c) mae’r rhan â llinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel;
(d) mae’r rhan â chroeslinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;
(e) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
239 
Mae’r rhannau o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 160—
(a) wedi eu trosglwyddo i gymuned Castell-gwyn;
(b) mae’r rhan â arlliwiwyd wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Castellnewydd;
(c) mae’r rhan â llinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel;
(d) mae’r rhan â chroeslinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;
(e) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
240 
Mae ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 161;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
241 
Mae ward gymunedol newydd Llanfihangel Ystum Llewern wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 162;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
242 
Mae ward gymunedol newydd Castellnewydd wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 163;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
243 
Mae ward gymunedol newydd Pen-rhos wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 164;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
244 
Mae ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 165;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
245 
Mae ward gymunedol newydd Castell-gwyn wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a) yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 166;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
246 
Mae cyngor ar gyfer cymuned Castell-gwyn wedi ei sefydlu.
247 
Mae cymuned Castell-gwyn yn cynnwys chwe ward—
(a) Llangatwg Feibion Afel;
(b) Llanfihangel Ystum Llewern;
(c) Castellnewydd;
(d) Pen-rhos;
(e) Rockfield a Llanfocha;
(f) Castell-gwyn.
248 
Yng nghymuned Castell-gwyn, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a) ward Llangatwg Feibion Afel yw 1;
(b) ward Llanfihangel Ystum Llewern yw 1;
(c) ward Castellnewydd yw 2;
(d) ward Pen-rhos yw 2;
(e) ward Rockfield a Llanfocha yw 3;
(f) ward Castell-gwyn yw 2.
249 

(1) Mae cymuned bresennol Llangatwg Feibion Afel fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
(2) Mae cyngor cymuned Llangatwg Feibion Afel wedi ei ddiddymu.
250 

(1) Mae cymuned bresennol Llandeilo Gresynni fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
(2) Mae cyngor cymuned Llandeilo Gresynni wedi ei ddiddymu.
251 

(1) Yn yr erthygl hon—
 ystyr “yr awdurdod bilio arfaethedig” (“the prospective billing authority”) yw Cyngor Sir Fynwy;
 ystyr “y cynghorau cymuned newydd” (“the new community councils”) yw’r cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
 ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
 ystyr “y gymuned newydd” (“the new community”) yw ardal gymunedol briodol y cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
 ystyr “y flwyddyn ariannol berthnasol” (“the relevant financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022.
(2) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau bilio) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai—
(a) at ddibenion gwneud cyfrifiad yn unol ag adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992—
(i) y swm yr hysbyswyd amdano yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â’r gymuned newydd, a
(ii) ardal yr awdurdod bilio arfaethedig yn cynnwys y gymuned newydd.
(b) is-adran (6) wedi ei hepgor.
(3) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai ei bod yn ofynnol i’r awdurdod bilio arfaethedig, wrth wneud cyfrifiadau yn unol ag adran 32 o Ddeddf 1992 (yn wreiddiol neu drwy amnewidiad) at ddibenion ei amcangyfrif o dan adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992, gymryd i ystyriaeth swm sy’n hafal i’r swm hwnnw yr hysbyswyd iddo yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.
(4) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 52X(1) (cyfrifiadau i fod yn net o braeseptau) a 52Y(2) (gwybodaeth at ddibenion Pennod 4A) o Ddeddf 1992 yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai cyfanswm y praeseptau a ragwelir gan yr awdurdod bilio arfaethedig yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 41 o Ddeddf 1992 yn cynnwys y symiau a hysbyswyd i’r cynghorau cymuned newydd yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.
(5) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau praeseptio lleol) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig fel pe bai’n ofynnol i bob un o’r cynghorau cymuned newydd sicrhau nad yw’r swm a gyfrifir fel ei ofyniad cyllideb am y flwyddyn honno yn fwy na’r swm a hysbyswyd i’r cyngor cymuned newydd hwnnw yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.
(6) Rhaid i’r swm priodol sydd i’w hysbysu i bob un o’r cynghorau cymuned newydd yn unol â’r paragraff hwn gael ei hysbysu gan Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig i’r awdurdod bilio arfaethedig ac i bob un o’r cynghorau cymuned newydd.
(7) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 1995 yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig fel pe bai—
(a) rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlenni talu) wedi ei hepgor;
(b) ym mharagraff 8 o’r Atodlen (rheolau i benderfynu’r cyfnodau amser ar gyfer rhandaliadau)—
(i) yn is-baragraffau (1), (2) a (3), bod y geiriau sy’n dilyn y cyfeiriad cyntaf at “that financial year” wedi eu hepgor;
(ii) yn is-baragraff (1)(a) bod y cyfeiriad at “April” yn gyfeiriad at “May”.
252 
Rhaid i swyddog priodol Cyngor Sir Fynwy alw cyfarfod cyntaf pob un o’r cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan erthyglau 137, 157, 232 a 246.
253 
At ddibenion unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliadau sy’n cyfeirio at olynydd gweddilliol awdurdod a ddiddymwyd—
(a) mewn perthynas â chynghorau cymuned presennol Llan-gwm a Llantrisant Fawr, mae cyngor cymuned newydd Llantrisant Fawr wedi ei bennu yn olynydd gweddilliol;
(b) mewn perthynas â chynghorau cymuned presennol Llangybi a Llanhenwg, mae cyngor cymuned newydd Llangybi wedi ei bennu yn olynydd gweddilliol.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
2 Tachwedd 2021