
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Gwynedd;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 11 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “11”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Sir Gwynedd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Gwynedd wedi ei rhannu’n 65 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Mae ward Deiniol o gymuned Bangor, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—
(a) mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Hendre o gymuned Bangor;
(b) mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hirael o gymuned Bangor.
5 
Yng nghymuned Bangor—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Garth yw 1;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hendre yw 3;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hirael yw 3;
(d) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Marchog yw 4.
6 
Yng nghymuned Bethesda—
(a) mae’r rhan o ward Ogwen a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rachub;
(b) mae’r rhan o ward Ogwen a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Gerlan.
7 
Yng nghymuned Bethesda—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gerlan yw 5;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Ogwen yw 4;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rachub yw 4.
8 
Mae wardiau Dwyrain, Gogledd, Deheuol a Gorllewin o gymuned Caernarfon, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
9 
Mae cymuned Caernarfon i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—
(a) ward Cadnant a ddangosir â llinellau ar Fap 5;
(b) ward Canol Tref a ddangosir â llinellau ar Fap 6;
(c) ward Hendre a ddangosir â llinellau ar Fap 7;
(d) ward Menai a ddangosir â llinellau ar Fap 8;
(e) ward Peblig a ddangosir â llinellau ar Fap 9.
10 
Yng nghymuned Caernarfon—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Cadnant yw 3;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Tref yw 3;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hendre yw 3;
(d) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Menai yw 4;
(e) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Peblig yw 4.
11 
Mae’r rhan o ward De Dolgellau o gymuned Dolgellau a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Gogledd Dolgellau o gymuned Dolgellau.
12 
Mae’r rhan o ward Congl-y-wal o gymuned Ffestiniog a ddangosir â llinellau ar Fap 11 wedi ei throsglwyddo i ward Diffwys a Maenofferen o gymuned Ffestiniog.
13 
Yng nghymuned Ffestiniog—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Congl-y-wal yw 2;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Diffwys a Maenofferen yw 5.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
1 Tachwedd 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Aberdyfi Aberdyfi Cymunedau Aberdyfi a Phennal 1
Abererch Abererch Wardiau Abererch a’r Ffôr o gymuned Llannor 1
Abermaw Abermaw Cymuned Abermaw 1
Abersoch gyda Llanengan Abersoch gyda Llanengan Wardiau Abersoch a Llanengan o gymuned Llanengan 1
Arllechwedd Arllechwedd Cymunedau Aber a Llanllechid, ward Llandygái o gymuned Llandygái a ward Glasinfryn o gymuned Pentir 1
Arthog a Llangelynnin Arthog a Llangelynnin Cymunedau Arthog a Llangelynnin 1
Bethel a’r Felinheli Bethel a’r Felinheli Cymuned y Felinheli a ward Bethel o gymuned Llanddeiniolen 2
Bowydd a’r Rhiw Bowydd a’r Rhiw Wardiau Bowydd a’r Rhiw, a Thanygrisiau o gymuned Ffestiniog 1
Brithdir and Llanfachreth/Ganllwyd/Llanelltyd Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/Llanelltud Cymunedau Brithdir a Llanfachreth, y Ganllwyd a Llanelltud 1
Bro Dysynni Bro Dysynni Cymunedau Bryn-crug, Llanegryn a Llanfihangel-y-Pennant 1
Cadnant Cadnant Ward Cadnant o gymuned Caernarfon 1
Canol Bangor Canol Bangor Wardiau Garth, Menai a Hendre o gymuned Bangor 2
Canol Bethesda Canol Bethesda Ward Ogwen o gymuned Bethesda 1
Canol Tref Caernarfon Canol Tref Caernarfon Ward Canol Tref o gymuned Caernarfon 1
Clynnog Clynnog Cymuned Clynnog a ward Nebo o gymuned Llanllyfni 1
Corris a Mawddwy Corris a Mawddwy Cymunedau Corris a Mawddwy 1
Criccieth Criccieth Cymuned Criccieth 1
Cwm-y-glo Cwm-y-glo Ward Brynrefail o gymuned Llanddeiniolen a wardiau Ceunant a Chwm-y-glo o gymuned Llanrug 1
De Dolgellau De Dolgellau Ward De Dolgellau o gymuned Dolgellau 1
De Pwllheli De Pwllheli Ward De Pwllheli o gymuned Pwllheli 1
Deiniolen Deiniolen Wardiau Clwt-y-bont, Deiniolen a Dinorwig o gymuned Llanddeiniolen 1
Dewi Dewi Ward Dewi o gymuned Bangor 1
Diffwys a Maenofferen Diffwys a Maenofferen Ward Diffwys a Maenofferen o gymuned Ffestiniog 1
Dolbenmaen Dolbenmaen Wardiau Bryncir, Garn, Golan, Penmorfa a Threflys o gymuned Dolbenmaen 1
Dwyrain Bangor Dwyrain Bangor Wardiau Marchog a Hirael o gymuned Bangor 2
Dwyrain Porthmadog Dwyrain Porthmadog Wardiau Dwyrain Porthmadog ac Ynys Galch o gymuned Porthmadog 1
Dyffryn Ardudwy Dyffryn Ardudwy Cymuned Dyffryn Ardudwy 1
Efailnewydd a Buan Efailnewydd a Buan Cymuned Buan a wardiau Efailnewydd a Phentre-uchaf o gymuned Llannor 1
Gerlan Gerlan Ward Gerlan o gymuned Bethesda 1
Glaslyn Glaslyn Cymunedau Beddgelert a Llanfrothen, wardPren-teg o gymuned Dolbenmaen a ward Tremadog o gymuned Porthmadog 1
Glyder Glyder Ward Glyder o gymuned Bangor 1
Gogledd Dolgellau Gogledd Dolgellau Ward Gogledd Dolgellau o gymuned Dolgellau 1
Gogledd Pwllheli Gogledd Pwllheli Ward Gogledd Pwllheli o gymuned Pwllheli 1
GorllewinPorthmadog Gorllewin Porthmadog Wardiau Gest, Morfa Bychan a Gorllewin Porthmadog o gymuned Porthmadog 1
Gorllewin Tywyn Gorllewin Tywyn Wardiau Dwyrain Tywyn a Gorllewin Tywyn o gymuned Tywyn 1
Harlech a Llanbedr Harlech a Llanbedr Cymunedau Harlech, Llanbedr, Llanfair a Thalsarnau 2
Hendre Hendre Ward Hendre o gymuned Caernarfon 1
Llanbedrog gyda Mynytho Llanbedrog gyda Mynytho Cymuned Llanbedrog a ward Llangïan o gymuned Llanengan 1
Llanberis Llanberis Cymuned Llanberis 1
Llandderfel Llandderfel Cymunedau Llandderfel a Llangywer 1
Llanllyfni Llanllyfni Wardiau Llanllyfni, Nantlle a Thal-y-sarn o gymuned Llanllyfni 1
Llanrug Llanrug Ward Llanrug o gymuned Llanrug 1
Llanuwchllyn Llanuwchllyn Cymunedau Llanuwchllyn a Llanycil 1
Llanwnda Llanwnda Wardiau Dinas a Rhostryfan o gymuned Llanwnda 1
Llanystumdwy Llanystumdwy Cymuned Llanystumdwy 1
Menai Menai Ward Menai o gymuned Caernarfon 1
Morfa Nefyn a Thudweiliog Morfa Nefyn a Thudweiliog Cymuned Tudweiliog a wardiau Edern a Morfa Nefyn o gymuned Nefyn 1
Morfa Tywyn Morfa Tywyn Ward Morfa o gymuned Tywyn 1
Nefyn Nefyn Ward Nefyn o gymuned Nefyn 1
Peblig Peblig Ward Peblig o gymuned Caernarfon 1
Pen draw Llŷn Pen draw Llŷn Cymunedau Aberdaron a Botwnnog 1
Penisa’r-waun Penisa’r-waun Wardiau Penisa’r-waun a Rhiwlas o gymuned Llanddeiniolen 1
Penrhyndeudraeth Penrhyndeudraeth Cymuned Penrhyndeudraeth 1
Pen-y-groes Pen-y-groes Ward Pen-y-groes o gymuned Llanllyfni 1
Rachub Rachub Ward Rachub o gymuned Bethesda 1
Teigl Teigl Wardiau Cynfal a Theigl, a Chongl-y-wal o gymuned Ffestiniog 1
Trawsfynydd Trawsfynydd Cymunedau Maentwrog a Thrawsfynydd 1
Tre-garth a Mynydd Llandygái Tre-garth a Mynydd Llandygái Wardiau St. Ann’s a Thregarth o gymuned Llandygái 1
Tryfan Tryfan Wardiau Carmel a Cesarea o gymuned Llandwrog a ward Rhosgadfan o gymuned Llanwnda 1
Waunfawr Waunfawr Cymuned Betws Garmon a ward Waunfawr o gymuned Waunfawr 1
Y Bala Y Bala Cymuned y Bala 1
Y Bontnewydd Y Bontnewydd Cymuned y Bontnewydd a ward Caeathro o gymuned Waunfawr 1
Y Faenol Y Faenol Ward y Faenol o gymuned Pentir 1
Y Groeslon Y Groeslon Wardiau Dinas Dinlle a’r Groeslon o gymuned Llandwrog 1
Yr Eifl Yr Eifl Cymunedau Llanaelhaearn a Phistyll 1