
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir y Fflint;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 10 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Sir y Fflint, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir y Fflint wedi ei rhannu’n 45 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Yn nhref Bwcle—
(a) mae’r rhan o ward Pentrobin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Bistre;
(b) mae’r rhan o ward Mynydd a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Pentrobin.
5 
Yn nhref Bwcle—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mynydd yw 3;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentrobin yw 7.
6 
Yn nhref y Fflint—
(a) mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;
(b) mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Trelawny.
7 
Yn nhref y Fflint—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Oakenholt yw 3;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trelawny yw 4.
8 
Yn nhref Cei Connah—
(a) mae’r rhan o ward De Cei Connah a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah;
(b) mae’r rhan o ward Golftyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah.
9 
Yn nhref Cei Connah—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Cei Connah yw 5;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Cei Connah yw 6.
10 
Yng nghymuned yr Wyddgrug—
(a) mae’r rhan o ward Gorllewin yr Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain yr Wyddgrug;
(b) mae’r rhan o ward Broncoed a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward y De;
(c) mae’r rhan o ward De’r Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin yr Wyddgrug.
11 
Mae ward gymunedol Penarlâg, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—
(a) mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i ward Mancot;
(b) mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Aston.
12 
Yng nghymuned Penarlâg—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Aston yw 7;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mancot yw 7.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
1 Tachwedd 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Argoed and New Brighton Argoed a New Brighton Cymuned Argoed 2
Bagillt Bagillt Tref Bagillt 2
Broughton North East Gogledd-ddwyrain Brychdyn Ward y Gogledd-ddwyrain o gymuned Brychdyn a Bretton 1
Broughton South De Brychdyn Ward y De o gymuned Brychdyn a Bretton 2
Brynford and Halkyn Brynffordd a Helygain Cymunedau Brynffordd a Helygain 2
Buckley: Bistre East Bwcle: Dwyrain Bistre Ward Dwyrain Bistre o dref Bwcle 2
Buckley: Bistre West Bwcle: Gorllewin Bistre Ward Gorllewin Bistre o dref Bwcle 2
Buckley: Mountain Bwcle: Mynydd Ward Bwcle: Mynydd o dref Bwcle 1
Buckley: Pentrobin Bwcle: Pentrobin Ward Pentrobin o dref Bwcle 2
Caergwrle Caergwrle Ward Caergwrle o gymuned yr Hôb 1
Caerwys Caerwys Cymuned Caerwys a chymuned Ysceifiog 1
Cilcain Cilcain Cymunedau Cilcain a Nannerch 1
Connah’s Quay Central Canol Cei Connah Ward Canol Cei Connah o dref Cei Connah 2
Connah’s Quay: Golftyn Cei Connah: Golftyn Ward Golftyn o dref Cei Connah 2
Connah’s Quay South De Cei Connah Ward De Cei Connah o dref Cei Connah 2
Connah’s Quay: Wepre Cei Connah: Gwepra Ward Gwepra o dref Cei Connah 1
Flint: Castle Y Fflint: Y Castell Ward y Castell o dref y Fflint 1
Flint: Coleshill and Trelawny Y Fflint: Cynswllt a Threlawny Wardiau Cynswllt a Threlawny o dref y Fflint 3
Flint: Oakenholt Y Fflint: Oakenholt Ward Oakenholt o dref y Fflint 1
Greenfield Maes-glas Ward Maes-glas o dref Treffynnon 1
Gwernaffield and Gwernymynydd Y Waun a Gwernymynydd Cymunedau’r Waun a Phant-y-mwyn, Gwernymynydd a Nercwys 2
Hawarden: Aston Penarlâg: Aston Ward Aston o gymuned Penarlâg 2
Hawarden: Ewloe Penarlâg: Ewloe Ward Ewloe o gymuned Penarlâg 2
Hawarden: Mancot Penarlâg: Mancot Ward Mancot o gymuned Penarlâg 2
Higher Kinnerton Kinnerton Uchaf Cymuned Kinnerton Uchaf 1
Holywell Central Canol Treffynnon Ward Canol Treffynnon o dref Treffynnon 1
Holywell East Dwyrain Treffynnon Ward Dwyrain Treffynnon o dref Treffynnon 1
Holywell West Gorllewin Treffynnon Ward Gorllewin Treffynnon o dref Treffynnon 1
Hope Yr Hôb Ward yr Hôb o gymuned yr Hôb 1
Leeswood Coed-llai Cymuned Coed-llai 1
Llanasa and Trelawnyd Llanasa a Threlawnyd Cymunedau Llanasa, a Gwaunysgor a Threlawnyd 2
Llanfynydd Llanfynydd Cymuned Llanfynydd 1
Mold: Broncoed Yr Wyddgrug: Broncoed Ward Broncoed o gymuned yr Wyddgrug 1
Mold East Dwyrain yr Wyddgrug Ward Dwyrain yr Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug 1
Mold South De’r Wyddgrug Ward De’r Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug 1
Mold West Gorllewin yr Wyddgrug Ward Gorllewin yr Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug 1
Mostyn Mostyn Cymuned Mostyn 1
Northop Llaneurgain Cymunedau Llaneurgain a Northop Hall 2
Pen-y-ffordd Pen-y-ffordd Cymuned Pen-y-ffordd 2
Saltney Ferry Saltney Ferry Tref Saltney 2
Queensferry and Sealand Queensferry a Sealand Cymunedau Queensferry a Sealand 2
Shotton East and Shotton Higher Dwyrain Shotton a Shotton Uchaf Ward Dwyrain Shotton a ward Shotton Uchaf o gymuned Shotton 2
Shotton West Gorllewin Shotton Ward Gorllewin Shotton o gymuned Shotton 1
Treuddyn Treuddyn Cymuned Treuddyn 1
Whitford Chwitffordd Cymuned Chwitffordd 1