
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2 
Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
3 
Mae’r diwygiad a wneir gan reoliad 4 yn gymwys i’r trafodiadau hynny sydd â dyddiad effeithiol sy’n digwydd ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn unig.
4 

(1) Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (swm penodedig o rent perthnasol), yn lle “£9,000” gosoder “£13,500”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2021