
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Penfro;mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 10 map a farciwyd “Map o Orchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Sir Benfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Benfro wedi ei rhannu’n 59 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Yng nghymuned Aberdaugleddau—
(a) mae’r rhan o ward Hakin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Aberdaugleddau;
(b) mae’r rhan o ward Hubberston a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hakin;
(c) mae’r rhan o ward Gogledd Aberdaugleddau a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Aberdaugleddau.
5 
Mae’r rhan o ward gymunedol St Michael o gymuned Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol De St Mary o gymuned Penfro.
6 
Yng nghymuned Penfro—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De St Mary yw 4;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward St Michael yw 4.
7 

(1) Mae wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion yng nghymuned Doc Penfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a) ward Canol Doc Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 5;
(b) ward Bush a ddangosir â llinellau ar Fap 6.
8 

(1) Mae ward gymunedol Pennar yng nghymuned Doc Penfro, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu.
(2) Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a) ward Pennar a ddangosir â llinellau ar Fap 7;
(b) ward Bufferland a ddangosir â llinellau ar Fap 8.
9 
Yng nghymuned Doc Penfro—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bufferland yw 3;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bush yw 3;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Doc Penfro yw 4;
(d) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pennar yw 3.
10 
Mae cymuned Saundersfoot i’w rhannu i ffurfio’r wardiau cymunedol a ganlyn—
(a) ward Gogledd Saundersfoot a ddangosir â llinellau ar Fap 9;
(b) ward De Saundersfoot a ddangosir â llinellau ar Fap 10.
11 
Yng nghymuned Saundersfoot—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Saundersfoot yw 4;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Saundersfoot yw 8.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Amroth and Saundersfoot North Amroth a Gogledd Saundersfoot Cymuned Amroth a ward Gogledd Saundersfoot o gymuned Saundersfoot 1
Boncath and Clydau Boncath a Chlydau Cymunedau Boncath, Maenordeifi a Chlydau 1
Burton Burton Cymunedau Burton a Rosemarket 1
Bro Gwaun Bro Gwaun Cymunedau Cwm Gwaun, Cas-mael a Sgleddau 1
Camrose Camros Cymuned Camros 1
Carew and Jeffreyston Caeriw a Jeffreyston Cymunedau Caeriw a Jeffreyston 1
Cilgerran and Eglwyswrw Cilgerran ac Eglwyswrw Cymunedau Cilgerran ac Eglwyswrw 1
Crymych and Mynachlog-ddu Crymych a Mynachlog-ddu Cymunedau Crymych a Mynachlog-ddu 1
East Williamston East Williamston Cymuned East Williamston 1
Fishguard: North East Gogledd-ddwyrain Abergwaun Ward Gogledd-ddwyrain Abergwaun o gymuned Abergwaun ac Wdig 1
Fishguard: North West Gogledd-orllewin Abergwaun Ward Gogledd-orllewin Abergwaun o gymuned Abergwaun ac Wdig 1
Goodwick Wdig Ward Wdig o gymuned Abergwaun ac Wdig 1
Haverfordwest: Castle Hwlffordd: Y Castell Ward y Castell o gymuned Hwlffordd 1
Haverfordwest: Garth Hwlffordd: Garth Ward Garth o gymuned Hwlffordd 1
Haverfordwest: Portfield Hwlffordd: Portfield Ward Portfield o gymuned Hwlffordd 1
Haverfordwest: Prendergast Hwlffordd: Prendergast Ward Prendergast o gymuned Hwlffordd 1
Haverfordwest: Priory Hwlffordd: Y Priordy Ward y Priordy o gymuned Hwlffordd 1
Hundleton Hundleton Cymunedau Angle, Hundleton, ac Ystagbwll a Chastellmartin 1
Johnston Johnston Cymuned Johnston 1
Kilgetty and Begelly Cilgeti a Begeli Cymuned Cilgeti/Begeli 1
Lampeter Velfrey Llanbedr Felffre Cymunedau Llanbedr Felffre a Llanddewi Felffre 1
Lamphey Llandyfái Cymunedau Cosheston a Llandyfái 1
Letterston Treletert Cymunedau Cas-lai, Treletert a Chas-blaidd 1
Llangwm Llangwm Cymunedau Freystrop, Hook a Llangwm 1
Llanrhian Llanrhian Cymunedau Llanrhian, Mathri a Phen-caer 1
Maenclochog Maenclochog Cymunedau Clunderwen, Gorllewin Llandysilio a Maenclochog 1
Manorbier and Penally Maenorbŷr a Phenalun Cymunedau Maenorbŷr a Phenalun 1
Martletwy Martletwy Cymunedau Llanhuadain, Martletwy, ac Uzmaston, Boulston a Slebets 1
Merlin’s Bridge Pont Fadlen Cymuned Pont Fadlen 1
Milford: Central Canol Aberdaugleddau Ward Canol Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau 1
Milford: East Dwyrain Aberdaugleddau Ward Dwyrain Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau 1
Milford: Hakin Aberdaugleddau: Hakin Ward Hakin o gymuned Aberdaugleddau 1
Milford: Hubberston Aberdaugleddau: Hubberston Ward Hubberston o gymuned Aberdaugleddau 1
Milford: North Gogledd Aberdaugleddau Ward Gogledd Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau 1
Milford: West Gorllewin Aberdaugleddau Ward Gorllewin Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau 1
Narberth: Urban Arberth Drefol Ward Arberth Drefol o gymuned Arberth 1
Narberth: Rural Arberth Wledig Cymuned Tredemel, a ward Arberth Wledig o gymuned Arberth 1
Newport and Dinas Trefdraeth a Dinas Cymunedau Dinas a Threfdraeth 1
Neyland: East Dwyrain Neyland Ward Dwyrain Neyland o gymuned Neyland 1
Neyland: West Gorllewin Neyland Cymuned Stadwell a ward Gorllewin Neyland o gymuned Neyland 1
Pembroke Dock: Bush Doc Penfro: Bush Ward Bush o gymuned Doc Penfro 1
Pembroke Dock: Central Canol Doc Penfro Ward Canol Doc Penfro o gymuned Doc Penfro 1
Pembroke Dock: Market Doc Penfro: Y Farchnad Ward y Farchnad o gymuned Doc Penfro 1
Pembroke Dock: Bufferland Doc Penfro: Bufferland Ward Bufferland o gymuned Doc Penfro 1
Pembroke Dock: Pennar Doc Penfro: Pennar Ward Pennar o gymuned Doc Penfro 1
Pembroke: Monkton and St Mary South Penfro: Cil-maen a De St Mary Wardiau Cil-maen a De St Mary o gymuned Penfro 2
Pembroke: St Mary North Penfro: Gogledd St Mary Ward Gogledd St Mary o gymuned Penfro 1
Pembroke: St Michael Penfro: St Michael Ward St Michael o gymuned Penfro 1
Rudbaxton and Spittal Rudbaxton a Spittal Cymunedau Rudbaxton a Spittal 1
Saundersfoot South De Saundersfoot Ward De Saundersfoot o gymuned Saundersfoot 1
Solva Solfach Cymunedau Breudeth a Solfach 1
St David’s Tyddewi Cymuned Tyddewi 1
St Dogmaels Llandudoch Cymunedau Nanhyfer a Llandudoch 1
St Florence and St Mary Out Liberty St Florence a Llanfair Dinbych-y-pysgod Cymunedau St Florence a Llanfair Dinbych-y-pysgod 1
St Ishmael’s Llanisan-yn-Rhos Cymunedau Dale, Herbrandston, Marloes a St Brides,Llanisan-yn-Rhos, Tiers Cross a Chastell Gwalchmai 1
Tenby: North Gogledd Dinbych-y-pysgod Ward Gogledd Dinbych-y-pysgod o gymuned Dinbych-y-pysgod
 1
Tenby: South De Dinbych-y-pysgod Ward De Dinbych-y-pysgod o gymuned Dinbych-y-pysgod ynghyd ag Ynys Bŷr ac Ynys Farged 1
The Havens Yr Aberoedd Cymunedau yr Aberoedd, a Nolton a’r Garn 1
Wiston Cas-wis Cymunedau Ambleston, y Mot a Chas-wis 1