
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “map” (“map”) yw’r map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;
 os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ei rhannu’n 30 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Mae’r rhan o gymuned Bae Colwyn a ddangosir â llinellau ar y map wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandrillo-yn-Rhos, ac yn ffurfio rhan o ward Rhos o gymuned Llandrillo-yn-Rhos.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Betws-yn-Rhos Betws-yn-Rhos Cymunedau Betws-yn-Rhos a Llanfair Talhaearn 1
Betws-y-Coed and Trefriw Betws-y-coed a Threfriw Cymunedau Betws-y-coed, Capel Curig, Dolwyddelan a Threfriw 1
Bryn Bryn Wardiau Bryn a Lafan o gymuned Llanfairfechan 1
Caerhun Caerhun Cymunedau Caerhun, Dolgarrog a Henryd 1
Colwyn Colwyn Ward Colwyn o gymuned Hen Golwyn 2
Conwy Conwy Wardiau Aberconwy a Chastell o gymuned Conwy 2
Craig-y-don Craig-y-don Ward Craig-y-don o gymuned Llandudno 2
Deganwy Deganwy Ward Deganwy o gymuned Conwy 2
Eglwys-bach a Llangernyw Eglwys-bach a Llangernyw Cymunedau Eglwys-bach a Llangernyw 1
Eirias Eirias Ward Eirias o gymuned Hen Golwyn 2
Gele and Llanddulas Gele a Llanddulas Wardiau Gele a Llansansiôr o gymuned Abergele a chymuned Llanddulas a Rhyd-y-foel 3
Glyn Glyn Ward Glyn o gymuned Bae Colwyn 2
Glyn y Marl Glyn y Marl Wardiau Marl a Phen-sarn o gymuned Conwy 3
Gogarth Mostyn Gogarth Mostyn Wardiau Gogarth a Mostyn o gymuned Llandudno 3
Kinmel Bay Bae Cinmel Ward Bae Cinmel o gymuned Bae Cinmel a Thywyn 3
Llandrillo-yn-Rhos Llandrillo-yn-Rhos Cymuned Llandrillo-yn-Rhos 4
Llanrwst a Llanddoged Llanrwst a Llanddoged Cymunedau Llanrwst, a Llanddoged a Maenan 2
Llansanffraid Llansanffraid Cymuned Llansanffraid Glan Conwy 1
Llansannan Llansannan Cymunedau Llansannan a Llannefydd 1
Llysfaen Llysfaen Cymuned Llysfaen 1
Mochdre Mochdre Cymuned Mochdre 1
Pandy Pandy Ward Pandy o gymuned Llanfairfechan 1
Penmaenmawr Penmaenmawr Cymuned Penmaenmawr 2
Penrhyn Penrhyn Ward Penrhyn o gymuned Llandudno 2
Pen-sarn Pentre Mawr Pen-sarn Pentre Mawr Wardiau Pen-sarn (Abergele) a Phentre Mawr o gymuned Abergele 3
Rhiw Rhiw Ward Rhiw o gymuned Bae Colwyn 3
Towyn Tywyn Ward Tywyn o gymuned Bae Cinmel a Thywyn 1
Tudno Tudno Ward Tudno o gymuned Llandudno 2
Uwch Aled Uwch Aled Cymunedau Cerrigydrudion, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangwm a Phentrefoelas 1
Uwch Conwy Uwch Conwy Cymunedau Bro Garmon, Bro Machno ac Ysbyty Ifan 1