
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2022.
2 
Yn rheoliad 5 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008, yn lle “chwe wythnos” rhodder “26 wythnos”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2021