
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2021.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod” (“authority”) yw prif gyngor o fewn ystyr adran 171(1) o Ddeddf 2021;
 ystyr “cwmni” (“company”) yw cwmni o fewn ystyr adran 27(4) o Ddeddf 2021;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
 ystyr “y pŵer cyffredinol” (“the general power”) yw’r pŵer cymhwysedd cyffredinol a roddir i awdurdod gan adran 24 o Ddeddf 2021.
2 

(1) Cyn arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol, rhaid i awdurdod—
(a) llunio achos busnes i gefnogi’r bwriad i arfer y pŵer cyffredinol; a
(b) cymeradwyo’r achos busnes hwnnw.
(2) Ystyr “achos busnes” o dan reoliad 2(1) yw datganiad cynhwysfawr ynghylch—
(a) nodau ac amcanion y bwriad i arfer y pŵer cyffredinol;
(b) y costau, y buddsoddiadau a’r adnoddau eraill y mae eu hangen er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hynny;
(c) y canlyniadau ariannol y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer cyffredinol yn eu cyflawni;
(d) unrhyw ganlyniadau perthnasol eraill y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer cyffredinol yn eu cyflawni;
(e) unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r bwriad i arfer y pŵer cyffredinol gan gynnwys asesiad o ddifrifoldeb y risgiau hynny, ac unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i liniaru’r risgiau hynny;
(f) yr effaith (gan gynnwys yr effaith ar delerau ac amodau cyflogaeth) ar unrhyw staff y mae’n bwriadu eu cyflenwi i gwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol drwyddo; ac
(g) y trefniadau bwriadedig ar gyfer staffio’r cwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol drwyddo, gan gynnwys telerau ac amodau cyflogaeth arfaethedig unrhyw staff sydd i’w cyflogi.
3 
Rhaid i awdurdod gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol â rheoliad 2(1)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
4 
Rhaid i awdurdod adennill costau unrhyw adeiladau ac ystafelloedd, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall a gyflenwir ganddo i gwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Hydref 2021