
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ddinbych;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
2 

(1) Mae wardiau etholiadol Sir Ddinbych, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Ddinbych wedi ei rhannu’n 29 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2021
YR ATODLEN
Erthygl 2


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Alyn Valley Dyffryn Alun Cymunedau Llanarmon-yn-Iâl a Llandegla 1
Bodelwyddan Bodelwyddan Cymuned Bodelwyddan 1
Denbigh Caledfryn Henllan Dinbych Caledfryn Henllan Cymuned Henllan a wardiau Canol Dinbych a Dinbych Uchaf o gymuned Dinbych 3
Denbigh Lower Dinbych Isaf Ward Dinbych Isaf o gymuned Dinbych 2
Dyserth Dyserth Cymuned Dyserth 1
Edeirnion Edeirnion Cymunedau Cynwyd, Llandrillo a Chorwen 2
Efenechdyd Efenechdyd Cymunedau Betws Gwerful Goch, Clocaenog, Derwen ac Efenechdyd 1
Llandyrnog Llandyrnog Cymunedau Aberchwiler, Llandyrnog a Llanynys 1
Llanfair Dyffryn Clwyd Gwyddelwern Llanfair Dyffryn Clwyd Gwyddelwern Cymunedau Bryneglwys, Gwyddelwern, Llanelidan a Llanfair Dyffryn Clwyd 1
Llangollen Llangollen Cymunedau Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl 2
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch Cymunedau Cyffylliog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a Nantglyn 1
Moel Famau Moel Famau Cymunedau Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanferres a Llangynhafal 1
Prestatyn Central Canol Prestatyn Ward Canol Prestatyn o gymuned Prestatyn 2
Prestatyn East Dwyrain Prestatyn Ward Dwyrain Prestatyn o gymuned Prestatyn 2
Prestatyn Meliden Prestatyn Alltmelyd Ward Alltmelyd o gymuned Prestatyn 1
Prestatyn North Gogledd Prestatyn Ward Gogledd Prestatyn a Gogledd-orllewin Prestatyn o gymuned Prestatyn 3
Prestatyn South West De-orllewin Prestatyn Ward De-orllewin Prestatyn o gymuned Prestatyn 2
Rhuddlan Rhuddlan Cymuned Rhuddlan 2
Rhyl East Dwyrain y Rhyl Wardiau Brynhedydd a Phlastirion o gymuned y Rhyl 2
Rhyl South De’r Rhyl Ward Derwen o gymuned y Rhyl 2
Rhyl South West De-orllewin y Rhyl Wardiau Cefndy a Phendyffryn o gymuned y Rhyl 2
Rhyl Trellewelyn Y Rhyl Trellewelyn Ward Trellewelyn o gymuned y Rhyl 2
Rhyl Tŷ Newydd Y Rhyl Tŷ Newydd Ward Tŷ Newydd o gymuned y Rhyl 2
Rhyl West Gorllewin y Rhyl Wardiau Bodfor a Foryd o gymuned y Rhyl 2
Ruthin Rhuthun Cymuned Rhuthun 3
St Asaph East Dwyrain Llanelwy Ward Dwyrain Llanelwy o gymuned Llanelwy 1
St Asaph West Gorllewin Llanelwy Ward Gorllewin Llanelwy o gymuned Llanelwy 1
Trefnant Trefnant Cymunedau Cefnmeiriadog a Threfnant 1
Tremeirchion Tremeirchion Cymunedau Bodfari, Cwm, Tremeirchion a’r Waun 1