
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 a deuant i rym ar 15 Hydref 2021.
2 
Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl paragraff (h);
(b) ar ddiwedd paragraff (i), yn lle “.” rhodder “;”;
(c) ar ôl paragraff (i) mewnosoder—“
(j) Dosbarth J – person—
(i) sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo;
(ii) nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
(iii) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon; a
(k) Dosbarth K – person—
(i) y rhoddir caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, pan roddir caniatâd o’r fath yn rhinwedd—(aa) Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan; neu(bb) y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogir neu a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu
(ii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond gan eithrio person (P)—(aa) sy’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i P ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol ar P, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; neu(bb) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf, ac y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw.”
4 
Yn rheoliad 4(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (g);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (h), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“
(i) person a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.”
5 
Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (i);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (j), yn lle “.” rhodder “;”;
(c) ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—“
(k) Dosbarth K – person—
(i) sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo;
(ii) nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
(iii) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon; ac
(l) Dosbarth L – person—
(i) y rhoddir caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, pan roddir caniatâd o’r fath yn rhinwedd—(aa) Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan; neu(bb) y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogir neu a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu
(ii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi nad yw’n dod o fewn paragraff (i), a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond gan eithrio person (P)—(aa) sy’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i P ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol ar P, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; neu(bb) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf, ac y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw.”
6 
Yn rheoliad 6(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai) —
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (g);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (h), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“
(i) person a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.”
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Hydref 2021