
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ceredigion;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
2 

(1) Mae wardiau etholiadol Sir Ceredigion, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Ceredigion wedi ei rhannu’n 34 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Hydref 2021
YR ATODLEN
Erthygl 2


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Aberaeron and Aberarth Aberaeron ac Aber-arth Tref Aberaeron a ward Llanddewi Aber-arth o gymuned Dyffryn Arth 1
Aberporth and Y Ferwig Aber-porth a’r Ferwig Cymunedau Aber-porth, a’r Ferwig 2
Aberystwyth Morfa a Glais Aberystwyth Morfa a Glais Wardiau Bronglais, Canol Aberystwyth a Gogledd Aberystwyth o dref Aberystwyth 2
Aberystwyth Penparcau Aberystwyth Penparcau Ward Penparcau o dref Aberystwyth 2
Aberystwyth Rheidol Aberystwyth Rheidol Ward Rheidol o dref Aberystwyth 1
Beulah and Llangoedmor Beulah a Llangoedmor Cymunedau Beulah, a Llangoedmor 2
Borth Y Borth Cymunedau’r Borth, a Genau’r Glyn 1
Ceulan a Maesmawr Ceulan a Maesmawr Cymunedau Ceulan a Maesmawr, Llangynfelyn, ac Ysgubor-y-coed 1
Ciliau Aeron Ciliau Aeron Cymunedau Ciliau Aeron, a Henfynyw 1
Faenor Faenor Cymuned Faenor 1
Lampeter Llanbedr Pont Steffan Tref Llanbedr Pont Steffan 1
Llannarth Llannarth Cymuned Llannarth 1
Llanbadarn Fawr Llanbadarn Fawr Cymuned Llanbadarn Fawr 1
Llandyfriog Llandyfrïog Cymuned Llandyfrïog 1
Llandysilio and Llangrannog Llandysilio a Llangrannog Cymunedau Llandysiliogogo, a Llangrannog 1
Llandysul North and Troedyraur Gogledd Llandysul a Throed-yr-aur Cymuned Troed-yr-aur, a wardiau Pontsiân a Thre-groes o gymuned Llandysul 1
Llandysul South De Llandysul Wardiau Capel Dewi a Threfol o gymuned Llandysul 1
Llanfarian Llanfarian Cymuned Llanfarian 1
Llanfihangel Ystrad Llanfihangel Ystrad Cymuned Llanfihangel Ystrad, a wardiau Nantcwnlle a Threfilan o gymuned Nantcwnlle 1
Llangeitho Llangeitho Cymunedau Llanddewi Brefi, a Llangeitho 1
Llangybi Llangybi Cymunedau Llanfair Clydogau, a Llangybi, a ward Gartheli o gymuned Nantcwnlle 1
Llanrhystyd Llanrhystud Cymunedau Llangwyryfon, a Llanrhystud 1
Llansanffraid Llansanffraid Cymuned Llansanffraid, a ward Llanbadarn Trefeglwys o gymuned Dyffryn Arth 1
Llanwenog Llanwenog Cymunedau Llanwenog, a Llanwnnen 1
Lledrod Lledrod Cymunedau Lledrod, Ystrad Meurig, ac Ysbyty Ystwyth 1
Melindwr Melindwr Cymunedau Blaenrheidol, Pontarfynach, a Melindwr 1
Mwldan Mwldan Ward Mwldan o dref Aberteifi 1
New Quay and Llanllwchaearn Ceinewydd a Llanllwchaearn Tref Ceinewydd a chymuned Llanllwchaearn 1
Penbryn Penbryn Cymuned Penbryn 1
Teifi Teifi Wardiau Rhyd-y-fuwch a Theifi o dref Aberteifi 1
Tirymynach Tirymynach Cymuned Tirymynach 1
Trefeurig Trefeurig Cymuned Trefeurig 1
Tregaron and Ystrad Fflur Tregaron ac Ystrad-fflur Tref Tregaron a chymuned Ystrad-fflur 1
Ystwyth Ystwyth Cymunedau Llanilar, a Thrawsgoed 1