
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
2 

(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg wedi ei rhannu’n 24 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Hydref 2021
YR ATODLEN
Erthygl 2


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Baruc Baruc Ward Baruc o dref y Barri 3
Buttrills Buttrills Ward Buttrills o dref y Barri 2
Cadoc Cadog Ward Cadog o dref y Barri 4
Castleland Castleland Ward Castleland o dref y Barri 2
Cornerswell Cornerswell Ward Cornerswell o dref Penarth 2
Court Court Ward Court o dref y Barri 2
Cowbridge Y Bont-faen Tref y Bont-faen gyda Llanfleiddan, a chymuned Pen-llin 3
Dinas Powys Dinas Powys Cymunedau Dinas Powys, a Llanfihangel-y-pwll 4
Dyfan Dyfan Ward Dyfan o dref y Barri 2
Gibbonsdown Gibbonsdown Ward Gibbonsdown o dref y Barri 2
Illtyd Illtud Ward Illtud o dref y Barri 3
Llandough Llandochau Cymuned Llandochau 1
Llandow Llandŵ Cymunedau Tregolwyn, Llandŵ, a Llan-gan 1
Llantwit Major Llanilltud Fawr Tref Llanilltud Fawr, a chymuned Llan-faes 4
Peterston-super-Ely Llanbedr-y-fro Cymunedau Pendeulwyn, Llanbedr-y-fro, a Llanddunwyd 1
Plymouth Plymouth Ward Plymouth o dref Penarth 2
Rhoose Y Rhws Cymuned y Rhws 3
St Athan Sain Tathan Cymuned Sain Tathan 2
St Bride’s Major Saint-y-brid Cymunedau Ewenni, Saint-y-brid, Sain Dunwyd, a’r Wig 2
St Nicholas and Llancarfan Sain Nicolas a Llancarfan Cymunedau Llancarfan, Sain Nicolas a Thresimwn, a Sain Siorys 1
St Augustine’s St Augustine’s Ward St Augustine’s o dref Penarth 3
Stanwell Stanwell Ward Stanwell o dref Penarth 2
Sully Sili Cymuned Sili 2
Wenvoe Gwenfô Cymuned Gwenfô 1