
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 7.00 a.m. ar 11 Hydref 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 16 mewnosoder—“
16A. 

(1) Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre a ddisgrifir ym mharagraff (2), rhaid i’r mesurau rhesymol sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol o dan Gam 3 o’r rheoliad hwnnw gynnwys mesurau i sicrhau na chaniateir i berson sy’n 18 oed neu drosodd fod yn bresennol yn y fangre onid yw’r person yn meddu ar dystiolaeth—
(a) sy’n cydymffurfio â’r gofynion ym mharagraff (6), fod y person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig,
(b) bod y person wedi cymryd rhan mewn, neu yn cymryd rhan mewn, treial clinigol, o fewn yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004, o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn y Deyrnas Unedig yn unol â gofynion y Rheoliadau hynny,
(c) o ganlyniad negatif o brawf cymhwysol a gymerir gan y person ddim mwy na 48 awr cyn i’r person fynd i’r fangre, neu
(d) o ganlyniad positif o brawf adwaith cadwynol polymerasau a gymerir gan y person ddim mwy na 180 o ddiwrnodau a ddim llai na 10 niwrnod cyn i’r person fynd i’r fangre.
(2) Y mangreoedd y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) mangreoedd sy’n bodloni’r holl amodau a ganlyn—
(i) mae’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol,
(ii) mae’r fangre yn darparu cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio, gan gynnwys clybiau nos, disgos a neuaddau dawnsio, a
(iii) mae’r fangre ar agor ar unrhyw adeg rhwng hanner nos a 5.00 a.m. (fodd bynnag pan fo’r amod hwn wedi ei fodloni, mae’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i’r fangre ar unrhyw adeg y mae ar agor, yn ddarostyngedig i baragraff (3)(a) neu (e));
(b) mangreoedd lle y mae digwyddiad yn digwydd a bod mwy na 10,000 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg;
(c) mangreoedd lle y mae digwyddiad yn digwydd i unrhyw raddau o dan do—
(i) pan fo mwy na 500 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg, a
(ii) pan na fo’r holl bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad yn eistedd fel arfer yn ystod y digwyddiad;
(d) mangreoedd lle y mae digwyddiad yn digwydd yn yr awyr agored—
(i) pan fo mwy na 4,000 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg, a
(ii) pan na fo’r holl bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad yn eistedd fel arfer yn ystod y digwyddiad.
(3) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre—
(a) o fath a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) ar unrhyw adeg pan na ddarperir cerddoriaeth i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio;
(b) lle y cynhelir digwyddiad yn yr awyr agored—
(i) pan na fo’n ofynnol i berson gael tocyn neu dalu ffi er mwyn cael mynediad i’r digwyddiad, a
(ii) pan fo dau neu ragor o bwyntiau mynediad i bersonau sy’n mynd i’r digwyddiad;
(c) lle y cynhelir protest, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992;
(d) lle y cynhelir digwyddiad chwaraeon cyfranogiad torfol yn yr awyr agored, megis marathon, ras feicio neu driathlon;
(e) a ddefnyddir i ddathlu—
(i) gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu
(ii) bywyd person ymadawedig,
ar unrhyw adeg pan y’i defnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.
(4) Ym mharagraff (1), nid yw’r cyfeiriad at berson sy’n 18 oed neu drosodd yn cynnwys person sy’n gweithio yn y fangre neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddi.
(5) At ddibenion paragraff (2)(b) i (d), nid yw person sy’n gweithio yn y digwyddiad, neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo, i’w drin fel pe bai’n bresennol yn y digwyddiad.
(6) At ddibenion paragraff (1)(a), rhaid i’r dystiolaeth bod person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig—
(a) dangos—
(i) i’r cwrs o ddosau gael ei weinyddu i’r person yn y Deyrnas Unedig, o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, neu mewn gwlad berthnasol, a
(ii) bod y diwrnod y mae’r person yn mynd i’r fangre yn fwy na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cwblhaodd y person y cwrs hwnnw o ddosau;
(b) mewn perthynas â chwrs o ddosau o frechlynnau a weinyddir yn y Deyrnas Unedig, gael ei darparu i’r person gan neu ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru neu un o adrannau Gogledd Iwerddon (gan gynnwys drwy lythyr, neges destun, e-bost, gwefan Pàs COVID y GIG neu ap ffôn clyfar y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol);
(c) mewn perthynas â chwrs o ddosau o frechlynnau a weinyddir gan wlad berthnasol, gan dystysgrif COVID ddigidol yr UE neu gerdyn brechu’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau.
(7) At ddibenion paragraff (1)(d), pan fo person wedi ynysu am gyfnod o lai na 10 niwrnod a gyfrifir yn unol â rheoliad 6(5) neu 7(5), mae’r cyfeiriad at “10 niwrnod” i’w drin fel cyfeiriad at nifer y diwrnodau yr oedd yn ofynnol i’r person ynysu ar eu cyfer.
(8) At ddibenion paragraff (6)(a), pan fo person wedi cael dos o frechlyn awdurdodedig yn y Deyrnas Unedig a dos o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod y person wedi cael cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.
(9) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) mae prawf yn brawf cymhwysol os yw’n gallu canfod presenoldeb y coronafeirws ac—
(i) yn brawf adwaith cadwynol polymerasau a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978, neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu
(ii) yn brawf llif unffordd y gellir cyflwyno ei ganlyniadau drwy system adrodd cyhoeddus y GIG.
(b) mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau os yw’r person wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—
(i) yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu
(ii) yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 ar gyfer y brechlyn awdurdodedig.
(10) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “brechlyn awdurdodedig” yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a awdurdodwyd—
(i) mewn perthynas â dosau a geir yn y Deyrnas Unedig—(aa) i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu(bb) gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
(ii) mewn perthynas â dosau a geir mewn gwlad berthnasol, i’w gyflenwi yn y wlad honno yn dilyn gwerthusiad gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;
(b) mae i “yr awdurdod trwyddedu” yr ystyr a roddir i “the licensing authority” yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
(c) ystyr “awdurdodiad marchnata”—
(i) mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth, yw’r ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
(ii) mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi mewn gwlad berthnasol ac eithrio Aelod-wladwriaeth, yw awdurdodiad marchnata a roddwyd gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;
(d) ystyr “gwlad berthnasol” yw gwlad a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11);
(e) ystyr “rheoleiddiwr perthnasol”, mewn perthynas â gwlad berthnasol, yw’r rheoleiddiwr a nodir yn y rhes gyfatebol o ail golofn y tabl ym mharagraff (11), ac mae cyfeiriad at reoleiddiwr yn y tabl hwnnw yn gyfeiriad at yr awdurdod rheoleiddiol sy’n dwyn yr enw hwnnw a ddynodwyd yn Awdurdod Rheoleiddiol Llym gan Sefydliad Iechyd y Byd yn unol â gweithrediad Cyfleuster COVAX;
(f) ystyr “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” yw gweinyddu’r brechlyn yn erbyn y coronafeirws i—
(i) gweision y Goron (o fewn yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989, contractwyr y llywodraeth (o fewn yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989) neu bersonél arall sydd wedi eu lleoli neu eu seilio dramor a’u dibynyddion o dan y cynllun o’r enw rhaglen frechu COVID-19 staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu,
(ii) preswylwyr y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, fel rhan o raglen y cytunwyd arni yn y diriogaeth dramor gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig, neu
(iii) personél milwrol neu sifilaidd, contractwyr y llywodraeth a’u dibynyddion mewn lleoliadau milwrol tramor, gan gynnwys y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, o dan y cynllun brechu a ddarperir neu a gymeradwyir gan Wasanaethau Meddygol Amddiffyn y DU.
(11) Mae’r tabl y cyfeirir ato yn y diffiniadau o “gwlad berthnasol” a “rheoleiddiwr perthnasol” yn dilyn—

Gwlad berthnasol Rheoleiddiwr perthnasol
Aelod-wladwriaeth Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Andorra Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Gwlad yr Iâ Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Gwladwriaeth Dinas y Fatican Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Liechtenstein Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Monaco Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Norwy Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
San Marino Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Y Swistir Swissmedic
Unol Daleithiau America Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau”
(3) Yn rheoliad 18(1), ar ôl “16(1)” mewnosoder “neu 16A(1)”.
(4) Yn rheoliad 25(3)(a)(i), ar ôl “16(1)” mewnosoder “neu 16A(1)”.
(5) Yn rheoliad 26, ar ôl “16(1)” mewnosoder “ac 16A(1)”.
(6) Ar ôl rheoliad 30 mewnosoder—“
30A. 
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cyflawni trosedd o dan reoliad 40A, caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol i’r person ddangos unrhyw dystiolaeth o fath a ddisgrifir yn rheoliad 16A(1) y mae’r swyddog yn amau ei bod yn meddiant y person.”
(7) Ar ôl rheoliad 40 mewnosoder—“
40A. 
Mae’n drosedd i berson (“P”) feddu ar dystiolaeth o fath a ddisgrifir yn rheoliad 16A(1) y mae P yn gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol.”
(8) Yn Atodlen 8—
(a) ym mharagraff 1—
(i) yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;
(ii) yn is-baragraff (2)(b), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;
(b) ym mharagraff 2—
(i) yn is-baragraff (3)(a), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;
(ii) yn is-baragraff (4)(b)(ii), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;
(iii) yn is-baragraff (4)(c), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;
(c) ym mharagraff 3(3)(c), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;
(d) ym mharagraff 4(1)(b), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2021