
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 5 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “5”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ei rhannu’n 34 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Mae’r rhan o ward Pontardawe o dref Pontardawe a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Trebanos o dref Pontardawe.
5 
Mae’r rhan o ward Canol Gorllewin tref Coed-ffranc a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain tref Coed-ffranc.
6 
Yn nhref Coed-ffranc—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain tref Coed-ffranc yw 4;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd tref Coed-ffranc yw 4;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin tref Coed-ffranc yw 3.
7 
Mae’r rhan o gymuned Blaenhonddan a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i gymuned Dyffryn Clydach.
8 
Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan yw 4.
9 

(1) Mae cymuned Glyncorrwg wedi ei diddymu.
(2) Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a) cymuned Gwynfi a Chroeserw a ddangosir â llinellau ar Fap 4;
(b) cymuned Cymer a Glyncorrwg a ddangosir â llinellau ar Fap 5.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Aberavon Aberafan Cymunedau Aberafan a Rhos Baglan 2
Aberdulais Aberdulais Wardiau Aberdulais a Chil-ffriw o gymuned Blaenhonddan 1
Allt-wen Allt-wen Ward Allt-wen o gymuned Cilybebyll 1
Baglan Baglan Cymunedau Baglan a Bae Baglan 3
Blaengwrach and Glynneath West Blaen-gwrach a Gorllewin Glyn-nedd Cymuned Blaen-gwrach, a wardiau Gorllewin a Chanol Gorllewin tref Glyn-nedd 1
Briton Ferry East Dwyrain Llansawel Wardiau Craig-y-darren a Chwrt-sart o dref Llansawel 1
Briton Ferry West Gorllewin Llansawel Wardiau Brynhyfryd a Choed Shelone o dref Llansawel 1
Bryn and Cwmavon Bryn a Chwmafan Cymunedau Bryn a Chwmafan 3
Bryn-coch North Gogledd Bryn-coch Ward Gogledd Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan 1
Bryn-coch South De Bryn-coch Ward De Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan 2
Cadoxton Llangatwg Ward Llangatwg o gymuned Blaenhonddan 1
Cimla and Pelenna Cimla a Phelenna Cymuned Pelenna a wardiau Cefn Saeson a Chrynallt o dref Castell-nedd 2
Coedffranc Central Canol Coed-ffranc Wardiau Canol a Chanol Dwyrain tref Coed-ffranc 2
Coedffranc North Gogledd Coed-ffranc Ward y Gogledd o dref Coed-ffranc 1
Coedffranc West Gorllewin Coed-ffranc Wardiau y Gorllewin a Chanol Gorllewin tref Coed-ffranc 2
Crynant, Onllwyn and Seven Sisters Y Creunant, Onllwyn a Blaendulais Cymunedau y Creunant, Onllwyn a Blaendulais 2
Cwmllynfell and Ystalyfera Cwmllynfell ac Ystalyfera Cymuned Cwmllynfell a ward Ystalyfera o gymuned Ystalyfera 2
Cymer and Glyncorrwg Cymer a Glyncorrwg Cymuned Cymer a Glyncorrwg 1
Dyffryn Dyffryn Cymuned Dyffryn Clydach 2
Glynneath Central and East Canol a Dwyrain Glyn-nedd Wardiau Canol a Dwyrain tref Glyn-nedd 1
Godre’r Graig Godre’r-graig Ward Godre’r-graig o gymuned Ystalyfera 1
Gwaun-Cae-Gurwen and Lower Brynamman Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf Cymuned Gwauncaegurwen 2
Gwynfi and Croeserw Gwynfi a Chroeserw Cymuned Gwynfi a Chroeserw 1
Margam and Tai-bach Margam a Thai-bach Cymunedau Margam, Gweunydd Margam a Thai-bach 3
Neath East Dwyrain Castell-nedd Wardiau Melincryddan a Phenrhiwtyn o dref Castell-nedd 3
Neath North Gogledd Castell-nedd Wardiau’r Castell a Llanilltud Nedd o dref Castell-nedd 2
Neath South De Castell-nedd Wardiau’r Gnoll a Mount Pleasant o dref Castell-nedd 2
Pontardawe Pontardawe Wardiau Pontardawe a Rhyd-y-fro o dref Pontardawe 2
Port Talbot Port Talbot Cymuned Port Talbot 2
Resolven and Tonna Resolfen a Thonna Cymunedau’r Clun a Melin-cwrt, Resolfen a Thonna 2
Rhos Rhos Wardiau Gelli-nudd a Rhos o gymuned Cilybebyll 1
Sandfields East Dwyrain Sandfields Cymuned Dwyrain Sandfields 3
Sandfields West Gorllewin Sandfields Cymuned Gorllewin Sandfields 3
Trebanos Trebanos Ward Trebanos o dref Pontardawe 1