
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 12 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “12”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ei rhannu’n 49 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 y Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Yng nghymuned Cefn—
(a) mae’r rhan o ward Acre-fair a Phen-y-bryn a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Plas Madog;
(b) mae’r rhan o ward Cefn a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Acre-fair a Phen-y-bryn;
(c) mae’r rhan o ward Rhosymedre a Chefn Bychan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Acre-fair a Phen-y-bryn.
5 
Yng nghymuned Cefn—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Acre-fair a Phen-y-bryn yw 5;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Cefn yw 5;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhosymedre a Chefn Bychan yw 1.
6 
Yng nghymuned Rhosllannerchrugog—
(a) mae’r rhan o ward Gogledd Ponciau a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rhos;
(b) mae’r rhan o ward De Ponciau a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rhos.
7 
Yng nghymuned Rhosllannerchrugog—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Johnstown yw 6;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Ponciau yw 2;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhos yw 4.
8 
Yng nghymuned Broughton—
(a) mae’r rhan o ward Bryn-teg a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Bryn Cefn;
(b) mae’r rhan o ward Bryn-teg a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Gwenfro;
(c) mae’r rhan o ward New Broughton a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Gwenfro.
9 
Yng nghymuned Broughton—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bryn Cefn yw 5;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bryn-teg yw 2;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gwenfro yw 5.
10 
Mae’r rhan o ward De Gwersyllt o gymuned Gwersyllt a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Gwersyllt o gymuned Gwersyllt.
11 
Yng nghymuned Gwersyllt—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Gwersyllt yw 4;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Gwersyllt yw 4;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Gwersyllt yw 5.
12 
Yng nghymuned Parc Caia—
(a) mae’r rhan o ward Whitegate a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Smithfield;
(b) mae’r rhan o ward Smithfield a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Wynnstay.
13 
Mae’r rhan honno o gymuned Abenbury a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i gymuned Parc Caia, ac mae’n ffurfio rhan o ward Whitegate o gymuned Parc Caia.
14 
Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Wynnstay o gymuned Parc Caia yw 3.
15 
Yng nghymuned Offa—
(a) mae’r rhannau o ward Offa a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi eu trosglwyddo i ward Erddig;
(b) mae’r rhan o ward Brynyffynnon a ddangosir â llinellau ar Fap 11 wedi ei throsglwyddo i ward Offa;
(c) mae’r rhan o ward Offa a ddangosir â llinellau ar Fap 12 wedi ei throsglwyddo i ward Brynyffynnon.
16 
Yng nghymuned Offa—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hermitage yw 4;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Offa yw 5.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Acrefair North Gogledd Acre-fair Ward Plas Madog o gymuned Cefn 1
Acton and Maesydre Gwaunyterfyn a Maes-y-dre Wardiau Parc Gwaunyterfyn, Canol Gwaunyterfyn, a Maes-y-dre o gymuned Gwaunyterfyn 2
Bangor Is-y-Coed Bangor-is-y-coed Cymunedau Bangor-is-y-coed a Willington Worthenbury 1
Borras Park Parc Borras Ward Parc Borras o gymuned Gwaunyterfyn 1
Bronington and Hanmer Bronington a Hanmer Cymunedau Bronington a Hanmer 1
Brymbo Brymbo Wardiau Brymbo a Fron o gymuned Brymbo 2
Bryn Cefn Bryn Cefn Ward Bryn Cefn o gymuned Broughton 1
Brynyffynnon Brynyffynnon Ward Brynyffynnon o gymuned Offa 1
Cartrefle Cartrefle Ward Cartrefle o gymuned Parc Caia 1
Cefn East Dwyrain Cefn Wardiau Cefn, a Rhosymedre a Chefn Bychan o gymuned Cefn 1
Cefn West Gorllewin Cefn Ward Acre-fair a Phen-y-bryn o gymuned Cefn 1
Chirk North Gogledd y Waun Ward Gogledd y Waun o gymuned y Waun 1
Chirk South De’r Waun Ward De’r Waun o gymuned y Waun 1
Coedpoeth Coed-poeth Cymuned Coed-poeth 2
Dyffryn Ceiriog Dyffryn Ceiriog Cymunedau Ceiriog Uchaf, Glyntraean a Llansanffraid Glyn Ceiriog 1
Erddig Erddig Ward Erddig o gymuned Offa 1
Esclusham Esclusham Wardiau Bers a Rhostyllen o gymuned Esclusham 1
Garden Village Garden Village Ward Garden Village o gymuned Rhos-ddu 1
Gresford East and West Dwyrain a Gorllewin Gresffordd Wardiau Dwyrain Gresffordd a Gorllewin Gresffordd o gymuned Gresffordd 1
Grosvenor Grosvenor Ward Grosvenor o gymuned Rhos-ddu 1
Gwenfro Gwenfro Ward Gwenfro o gymuned Broughton 1
Gwersyllt East Dwyrain Gwersyllt Ward Dwyrain Gwersyllt o gymuned Gwersyllt 1
Gwersyllt North Gogledd Gwersyllt Ward Gogledd Gwersyllt o gymuned Gwersyllt 1
Gwersyllt South De Gwersyllt Ward De Gwersyllt o gymuned Gwersyllt 1
Gwersyllt West Gorllewin Gwersyllt Ward Gorllewin Gwersyllt o gymuned Gwersyllt 1
Hermitage Hermitage Ward Hermitage o gymuned Offa 1
Holt Holt Cymunedau Abenbury, Holt ac Is-y-coed 1
Little Acton Acton Fechan Ward Acton Fechan o gymuned Gwaunyterfyn 1
Llangollen Rural Llangollen Wledig Cymuned Llangollen Wledig 1
Llay Llai Cymuned Llai 2
Marchwiel Marchwiel Cymuned Marchwiel 1
Marford and Hoseley Marford a Hoseley Ward Marford a Hoseley o gymuned Gresffordd 1
Minera Mwynglawdd Ward Bwlch-gwyn o gymuned Brymbo, a chymuned Mwynglawdd 1
New Broughton New Broughton Wardiau Bryn-teg a New Broughton o gymuned Broughton 1
Offa Offa Ward Offa o gymuned Offa 1
Overton and Maelor South Owrtyn a De Maelor Cymunedau De Maelor ac Owrtyn 1
Pant and Johnstown Pant a Johnstown Wardiau Johnstown a Phant o gymuned Rhosllannerchrugog 2
Penycae Pen-y-cae Ward Eitha o gymuned Pen-y-cae 1
Penycae and Ruabon South Pen-y-cae a De Rhiwabon Ward y Groes o gymuned Pen-y-cae a ward De Rhiwabon o gymuned Rhiwabon 1
Ponciau Ponciau Ward Pentrebychan o gymuned Esclusham a wardiau Gogledd Ponciau a De Ponciau o gymuned Rhosllannerchrugog 1
Queensway Queensway Ward Queensway o gymuned Parc Caia 1
Rhos Rhos Ward Rhos o gymuned Rhosllannerchrugog a ward Aber-oer o gymuned Esclusham 1
Rhosnesni Rhosnesni Ward Rhosnesni o gymuned Gwaunyterfyn 2
Rossett Yr Orsedd Cymuned yr Orsedd 2
Ruabon Rhiwabon Ward Gogledd Rhiwabon o gymuned Rhiwabon 1
Smithfield Smithfield Ward Smithfield o gymuned Parc Caia 1
Stansty Stansty Ward Stansty o gymuned Rhos-ddu 1
Whitegate Whitegate Ward Whitegate o gymuned Parc Caia 1
Wynnstay Wynnstay Ward Wynnstay o gymuned Parc Caia 1