
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
2 

(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ei rhannu’n 11 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2021
YR ATODLEN
Erthygl 2


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Bedlinog and Trelewis Bedlinog a Threlewis Cymuned Bedlinog 2
Cyfarthfa Cyfarthfa Cymuned Cyfarthfa 3
Dowlais and Pant Dowlais a Phant Cymunedau Dowlais a Phant 3
Gurnos Gurnos Cymuned Gurnos 3
Merthyr Vale Ynysowen Cymuned Ynysowen 2
Park Y Parc Cymuned y Parc 2
Penydarren Penydarren Cymuned Penydarren 3
Plymouth Plymouth Cymuned Troed-y-rhiw 3
Town Y Dref Cymuned y Dref 4
Treharris Treharris Cymuned Treharris 3
Vaynor Faenor Cymuned Faenor 2