
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 7 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “7”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei rannu’n 28 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Mae cymuned Bracla i’w rhannu’n wardiau fel a ganlyn—
(a) ward Gorllewin Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 1;
(b) ward Canol Gorllewin Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 2;
(c) ward Canol Dwyrain Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 3;
(d) ward Dwyrain Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 4.
5 
Yng nghymuned Bracla—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Bracla yw 3;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Gorllewin Bracla yw 3;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain Bracla yw 3;
(d) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Bracla yw 3.
6 
Yng nghymuned Porthcawl—
(a) mae’r rhan o ward Notais a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Rest Bay;
(b) mae’r rhan o ward Rest Bay a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Gorllewin Porthcawl;
(c) mae’r rhan o ward Drenewydd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl;
(d) mae’r rhan o ward Canol Gorllewin Porthcawl a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl.
7 
Yng nghymuned Porthcawl—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Notais yw 3;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Drenewydd yw 3;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Gorllewin Porthcawl yw 3;
(d) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain Porthcawl yw 6.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Aberkenfig Abercynffig Ward Abercynffig o gymuned Castellnewydd Uchaf a chymuned Llangynwyd Isaf 1
Blackmill Melin Ifan Ddu Wardiau Melin Ifan Ddu ac Evanstown o gymuned Cwm Ogwr 1
Brackla East and Coychurch Lower Dwyrain Bracla a Llangrallo Isaf Ward Dwyrain Bracla o gymuned Bracla a chymuned Llangrallo Isaf 2
Brackla East Central Canol Dwyrain Bracla Ward Canol Dwyrain Bracla o gymuned Bracla 1
Brackla West Gorllewin Bracla Ward Gorllewin Bracla o gymuned Bracla 1
Brackla West Central Canol Gorllewin Bracla Ward Canol Gorllewin Bracla o gymuned Bracla 1
Bridgend Central Canol Pen-y-bont ar Ogwr Wardiau Morfa a Chastellnewydd o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr 3
Bryntirion, Laleston and Merthyr Mawr Bryntirion, Trelales a Merthyr Mawr Cymuned Merthyr Mawr, a ward Trelales / Bryntirion o gymuned Trelales 3
Caerau Caerau Wardiau Caerau a Nantyffyllon o gymuned Maesteg 2
Cefn-glas Cefn-glas Wardiau Cefn-glas 1 a Chefn-glas 2 o gymuned Trelales 2
Coity Higher Coety Uchaf Cymuned Coety Uchaf 3
Cornelly Corneli Cymuned Corneli 3
Garw Valley Cwm Garw Cymuned Cwm Garw 3
Llangynwyd Llangynwyd Wardiau Cwmfelin a Phont-rhyd-y-cyff o gymuned Llangynwyd Ganol 1
Maesteg East Dwyrain Maesteg Ward Dwyrain Maesteg o gymuned Maesteg 2
Maesteg West Gorllewin Maesteg Ward Gorllewin Maesteg o gymuned Maesteg 2
Nant-y-moel Nant-y-moel Ward Nant-y-moel o gymuned Cwm Ogwr 1
Newton Drenewydd Ward Drenewydd o gymuned Porthcawl 1
Nottage Notais Ward Notais o gymuned Porthcawl 1
Ogmore Vale Bro Ogwr Ward Bro Ogwr o gymuned Cwm Ogwr 1
Oldcastle Hengastell Ward Hengastell o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr 2
Pencoed and Penprysg Pencoed a Phen-prysg Cymuned Pencoed a chymuned Llangrallo Uchaf 3
Pen-y-fai Pen-y-fai Ward Pen-y-fai o gymuned Castellnewydd Uchaf 1
Porthcawl East Central Canol Dwyrain Porthcawl Ward Canol Dwyrain Porthcawl o gymuned Porthcawl 2
Porthcawl West Central Canol Gorllewin Porthcawl Ward Canol Gorllewin Porthcawl o gymuned Porthcawl 1
Pyle, Kenfig Hill and Cefn Cribwr Y Pîl, Cynffig a Chefn Cribwr Cymunedau Cefn Cribwr a’r Pîl 3
Rest Bay Rest Bay Ward Rest Bay o gymuned Porthcawl 1
St Bride’s Minor and Ynysawdre Llansanffraid-ar-Ogwr ac Ynysawdre Cymunedau Llansanffraid-ar-Ogwr ac Ynysawdre 3