
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Caerfyrddin;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Sir Gaerfyrddin, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Gaerfyrddin wedi ei rhannu’n 51 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Mae wardiau cymunedol Elli a Thyisha yn nhref Llanelli, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
5 
Mae’r cymunedau a ganlyn yn nhref Llanelli wedi eu ffurfio—
(a) ward Elli a ddangosir â llinellau ar Fap 1;
(b) ward Tyisha a ddangosir â llinellau ar Fap 2.
6 
Yn nhref Llanelli—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Elli yw 2;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Tyisha yw 4.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Abergwili Abergwili Cymunedau Abergwili a Llanllawddog 1
Ammanford Rhydaman Cymuned Rhydaman 2
Betws Y Betws Cymuned y Betws 1
Bigyn Bigyn Ward Bigyn o dref Llanelli 3
Burry Port Porth Tywyn Ward Porth Tywyn o dref Pen-bre a Phorth Tywyn 2
Bynea Bynea Ward Bynea o gymuned Llanelli Wledig 2
Carmarthen Town North and South Gogledd a De Tref Caerfyrddin Wardiau’r Gogledd a’r De o gymuned Caerfyrddin 3
Carmarthen Town West Gorllewin Tref Caerfyrddin Ward y Gorllewin o gymuned Caerfyrddin 2
Cenarth and Llangeler Cenarth a Llangeler Cymunedau Cenarth, Castellnewydd Emlyn a Llangeler 2
Cilycwm Cil-y-cwm Cymunedau Cil-y-cwm, Cynwyl Gaeo, Llansadwrn, Llanwrda a Llan-y-crwys 1
Quarter Bach Cwarter Bach Cymuned Cwarter Bach 1
Cynwyl Elfed Cynwyl Elfed Cymunedau Bronwydd, Cynwyl Elfed a Llanpumsaint 1
Dafen and Felinfoel Dafen a Felin-foel Wardiau Dafen a Felin-foel o gymuned Llanelli Wledig 2
Elli Elli Ward Elli o dref Llanelli 1
Garnant Y Garnant Wardiau Pistyll-llwyd a Thwyn o gymuned Cwmaman 1
Glanamman Glanaman Wardiau Grenig a Thir-coed o gymuned Cwmaman 1
Glanymor Glan-y-môr Ward Glan-y-môr o dref Llanelli 2
Glyn Glyn Ward Glyn o gymuned Llanelli Wledig 1
Gorslas Gors-las Cymuned Gors-las 2
Hendy Hendy Ward Hendy o dref Llanedi 1
Hengoed Hengoed Ward Hengoed o gymuned Llanelli Wledig 2
Kidwelly and St Ishmael Cydweli a Llanismel Tref Cydweli a chymuned Llanismel 2
Laugharne Township Lacharn Cymunedau Eglwys Gymin, Lacharn, Llanddowror a Phentywyn 1
Llanboidy Llanboidy Cymunedau Cilymaenllwyd, Llanboidy a Llangynin 1
Llanddarog Llanddarog Cymunedau Llanarthne a Llanddarog 1
Llandeilo Llandeilo Cymunedau Dyffryn Cennen a Llandeilo 1
Llandovery Llanymddyfri Cymunedau Llanymddyfri a Llanfair-ar-y-bryn 1
Llandybie Llandybïe Wardiau Heol-ddu a Llandybïe o gymuned Llandybïe 2
Llanegwad Llanegwad Cymunedau Llanegwad, Llanfihangel Rhos-y-corn a Llanfynydd 1
Llanfihangel Aberbythych Llanfihangel Aberbythych Cymunedau Llanfihangel Aberbythych a Llangathen 1
Llanfihangel-ar-Arth Llanfihangel-ar-arth Cymunedau Llanfihangel-ar-arth a Llanllwni 1
Llangadog Llangadog Cymunedau Llanddeusant, Llangadog a Myddfai 1
Llangennech Llangennech Cymuned Llangennech 2
Llangunnor Llangynnwr Cymuned Llangynnwr 1
Llangyndeyrn Llangyndeyrn Cymunedau Llandyfaelog a Llangyndeyrn 2
Llannon Llan-non Cymuned Llan-non 2
Llanybydder Llanybydder Cymunedau Llanybydder a Phencarreg 1
Lliedi Lliedi Ward Lliedi o dref Llanelli 2
Llwynhendy Llwynhendy Ward Pemberton o gymuned Llanelli Wledig 2
Manordeilo and Salem Maenordeilo a Salem Cymunedau Llansawel, Maenordeilo a Salem, a Thalyllychau 1
Pembrey Pen-bre Ward Pen-bre o dref Pen-bre a Phorth Tywyn 2
Penygroes Pen-y-groes Ward Pen-y-groes o gymuned Llandybïe 1
Pontyberem Pontyberem Cymuned Pontyberem 1
Saron Saron Ward Saron o gymuned Llandybïe 2
St Clears and Llansteffan Sanclêr a Llansteffan Cymunedau Llan-gain, Llangynog, Llansteffan a Sanclêr 2
Swiss Valley Swiss Valley Ward Swiss Valley o gymuned Llanelli Wledig 1
Trelech Tre-lech Cymunedau Aber-nant, Llanwinio, Meidrim, Llannewydd a Merthyr, a Thre-lech a’r Betws 1
Trimsaran Trimsaran Cymuned Trimsaran 1
Tycroes Tŷ-croes Wardiau Llanedi a Thŷ-croes o gymuned Llanedi 1
Tyisha Tyisha Ward Tyisha o dref Llanelli 2
Whitland Hendy-gwyn ar Daf Cymuned Henllanfallteg a thref Hendy-gwyn ar Daf 1