
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Powys;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Sir Powys, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Powys wedi ei rhannu’n 60 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Yng nghymuned y Trallwng—
(a) mae’r rhan o ward Llanerchyddol a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;
(b) mae’r rhan o ward Gungrog a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;
(c) mae’r rhan o ward Gungrog a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Llanerchyddol.
5 
Yng nghymuned y Trallwng—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Castell yw 5;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gungrog yw 5;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Llanerchyddol yw 5.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Aber-craf and Ystradgynlais Aber-craf ac Ystradgynlais Wardiau Aber-craf ac Ystradgynlais o gymuned Ystradgynlais 2
Banwy, Llanfihangel and Llanwddyn Banwy, Llanfihangel a Llanwddyn Cymunedau Banwy, Llanfihangel, Llangynog, Llanwddyn, a Phen-y-bont-fawr 1
Berriew and Castle Caereinion Aberriw a Chastell Caereinion Cymunedau Aberriw a Chastell Caereinion 1
Brecon East Dwyrain Aberhonddu Wardiau Dwyrain Sant Ioan a Santes Fair o gymuned Aberhonddu 2
Brecon West Gorllewin Aberhonddu Wardiau Dewi Sant Fewnol a Gorllewin Sant Ioan o gymuned Aberhonddu 2
Bronllys and Felin-fach Bronllys a Felin-fach Cymunedau Bronllys, Erwyd, a Felin-fach 1
Builth Llanfair-ym-Muallt Cymuned Llanfair-ym-Muallt 1
Caersws Caersŵs Cymunedau Carno a Chaersŵs 1
Churchstoke Yr Ystog Cymuned yr Ystog 1
Crickhowell with Cwmdu and Tretower Crucywel gyda Chwm-du a Thretŵr Wardiau Cwm-du a Thretŵr o gymuned Cwm-du a’r Cylch, a chymunedau Crucywel a Dyffryn Grwyne 2
Cwm-twrch Cwm-twrch Ward Cwm-twrch o gymuned Ystradgynlais 1
Disserth and Trecoed with Newbridge Diserth a Thre-coed gyda’r Bontnewydd-ar-Wy Ward y Bontnewydd-ar-Wy o gymuned Llanllŷr, a chymuned Diserth a Thre-coed 1
Dolforwyn Dolforwyn Cymunedau Aber-miwl gyda Llandysul, a Betws Cedewain 1
Forden and Montgomery Ffordun a Threfaldwyn Ward Ffordun o gymuned Ffordun gyda Thre’r-llai a Threlystan, a chymuned Trefaldwyn 1
Glantwymyn Glantwymyn Cymunedau Cadfarch a Glantwymyn 1
Glasbury Y Clas-ar-Wy Cymunedau Cleiro a’r Clas-ar-Wy 1
Guilsfield Cegidfa Cymuned Cegidfa 1
Gwernyfed Gwernyfed Cymunedau Gwernyfed a Llanigon 1
Hay Y Gelli Cymuned y Gelli 1
Ithon Valley Dyffryn Ieithon Cymunedau Llanbadarn Fawr, Llanbadarn Fynydd, Llanbister, Llanddewi Ystradenni a Phen-y-bont 1
Kerry Ceri Wardiau Ceri a Sarn o gymuned Ceri 1
Knighton with Beguildy Trefyclo gyda Bugeildy Cymunedau Bugeildy a Threfyclo 2
Llanafanfawr with Garth Llanafan-fawr gyda Garth Ward Garth o gymuned Treflys, a chymunedau Cilmeri, Duhonw, Llanafan-fawr, a Llanwrthwl 1
Llanbrynmair Llanbrynmair Cymunedau Llanbrynmair a Threfeglwys 1
Llandinam with Dolfor Llandinam gyda Dolfor Ward Dolfor o gymuned Ceri, a chymunedau Llandinam, a Mochdre gyda Phenystrywaid 1
Llandrindod North Gogledd Llandrindod Ward Gogledd Llandrindod o gymuned Llandrindod 1
Llandrindod South De Llandrindod Wardiau Dwyrain Llandrindod, Gorllewin Llandrindod, De Llandrindod Rhif 1, a De Llandrindod Rhif 2 o gymuned Llandrindod 2
Llandrinio Llandrinio Cymuned Llandrinio 1
Llandysilio Llandysilio Cymuned Llandysilio 1
Llanelwedd Llanelwedd Cymunedau Aberedw, Glasgwm, Llanelwedd a Chastell-paen 1
Llanfair Caereinion and Llanerfyl Llanfair Caereinion a Llanerfyl Cymunedau Llanerfyl a Llanfair Caereinion 1
Llanfyllin Llanfyllin Cymuned Llanfyllin 1
Llangattock and Llangynidr Llangatwg a Llangynidr Cymunedau Llangatwg a Llangynidr 1
Llangors with Bwlch Llan-gors gyda Bwlch Ward Bwlch o gymuned Cwm-du a’r Cylch, a chymuned Llan-gors 1
Llangunllo with Norton Llangynllo gyda Norton Ward Norton o gymuned Llanandras, a chymunedau Llanfihangel Rhydieithon, Llangynllo, a Hwytyn 1
Llangyniew and Meifod Llangynyw a Meifod Cymunedau Llangynyw a Meifod 1
Llanidloes Llanidloes Cymunedau Llangurig, Llanidloes Allanol, a Llanidloes 2
Llanrhaeadr-ym-Mochnant and Llansilin Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin Cymunedau Llangedwyn, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a Llansilin 1
Llansantffraid Llansanffraid Cymuned Llansanffraid 1
Llanwrtyd Wells Llanwrtyd Ward Beulah o gymuned Treflys, a chymunedau Llangamarch a Llanwrtyd 1
Llanyre with Nantmel Llanllŷr gyda Nantmel Ward Llanfihangel Helygen a Llanllŷr o gymuned Llanllŷr, a chymunedau Abaty Cwm-hir, Nantmel, a Saint Harmon 1
Machynlleth Machynlleth Cymuned Machynlleth 1
Maescar and Llywel Maes-car a Llywel Cymunedau Crai, Llywel, a Maes-car 1
Newtown Central and South Canol a De’r Drenewydd Wardiau Canol a De’r Drenewydd o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn 2
Newtown East Dwyrain y Drenewydd Ward Dwyrain y Drenewydd o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn 1
Newtown North Gogledd y Drenewydd Ward Gogledd Llanllwchaearn o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn 1
Newtown West Gorllewin y Drenewydd Ward Gorllewin Llanllwchaearn o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn 1
Old Radnor Pencraig Cymunedau Llanfair Llythynwg, Maesyfed a Phencraig 1
Presteigne Llanandras Ward Tref Llanandras o gymuned Llanandras 1
Rhayader Rhaeadr Gwy Cymuned Rhaeadr Gwy 1
Rhiwcynon Rhiwcynon Cymunedau Aberhafesb, Dwyriw, Manafon, a Thregynon 1
Talgarth Talgarth Cymuned Talgarth 1
Talybont-on-Usk Tal-y-bont ar Wysg Cymunedau Glyn Tarell, Llanfrynach, a Thal-y-bont ar Wysg 1
Tawe Uchaf Tawe Uchaf Cymunedau Ystradfellte a Thawe Uchaf 1
Trelystan and Trewern Trelystan a Thre-wern Ward Trelystan o gymuned Ffordun gyda Thre’r-llai a Threlystan, a chymuned Tre-wern 1
Welshpool Castle Y Trallwng Castell Ward y Castell o gymuned y Trallwng 1
Welshpool Gungrog Y Trallwng Gungrog Ward Gungrog o gymuned y Trallwng 1
Welshpool Llanerchyddol Y Trallwng Llanerchyddol Ward Llanerchyddol o gymuned y Trallwng 1
Ynyscedwyn Ynysgedwyn Ward Ynysgedwyn o gymuned Ystradgynlais 1
Yscir with Honddu Isaf and Llanddew Ysgir gyda Honddu Isaf a Llan-ddew Cymunedau Honddu Isaf, Llan-ddew, Merthyr Cynog, Trallong, ac Ysgir 1