
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 9 map a farciwyd “Map Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “9”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ei rhannu’n 46 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Mae’r rhan o ward Ton-teg ward o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref.
5 
Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref yw 5.
6 
Mae wardiau cymunedol Cefnyrhendy, y Groes-faen, Maes-y-felin a Meisgyn yng nghymuned Pont-y-clun wedi eu diddymu.
7 
Mae cymuned Pont-y-clun i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—
(a) ward Dwyrain Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 2;
(b) ward Canol Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 3;
(c) ward Gorllewin Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 4.
8 
Yng nghymuned Pont-y-clun—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Pont-y-clun yw 3;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Pont-y-clun yw 4;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Pont-y-clun yw 4.
9 

(1) Mae’r rhan o gymuned Ystrad a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.
(2) Mae’r rhan o gymuned Trealaw a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.
10 
Mae’r rhan o gymuned Tref Pontypridd a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i gymuned Trehafod.
11 
Mae wardiau cymunedol y Ddraenen-wen, Ilan, Canol Rhydfelen, a Rhydfelen Isaf yng nghymuned Tref Pontypridd wedi eu diddymu.
12 
Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio yng nghymuned Tref Pontypridd—
(a) ward Canol Rhydfelen a ddangosir â llinellau ar Fap 7;
(b) ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf a ddangosir â llinellau ar Fap 8;
(c) ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf a ddangosir â llinellau ar Fap 9.
13 
Yng nghymuned Tref Pontypridd—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Rhydfelen yw 2;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf yw 2;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf yw 2;
(d) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhondda yw 3;
(e) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trefforest yw 3.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Aberaman Aberaman Cymunedau Gogledd Aberaman a De Aberaman 3
Abercynon Abercynon Cymuned Abercynon 2
Aberdare East Dwyrain Aberdâr Cymuned Dwyrain Aberdâr 2
Aberdare West and Llwydcoed Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed Cymunedau Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed 3
Beddau and Tyn-y-nant Beddau a Thyn-y-nant Wardiau Beddau a Thyn-y-nant o gymuned Llanilltud Faerdref 2
Brynna and Llanharan Brynna a Llanharan Wardiau Brynna, Llanilid a Llanharan o gymuned Llanharan 3
Church Village Pentre’r Eglwys Ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref 2
Cilfynydd Cilfynydd Ward Cilfynydd o gymuned Tref Pontypridd 1
Cwm Clydach Cwm Clydach Cymuned Cwm Clydach 1
Cwmbach Cwm-bach Cymuned Cwm-bach 2
Cymer Cymer Cymunedau Cymer a Threhafod 2
Ferndale and Maerdy Glynrhedynog a’r Maerdy Cymunedau Glynrhedynog a’r Maerdy 2
Gilfach-goch Gilfach-goch Cymuned Gilfach-goch 1
Glyn-coch Glyn-coch Ward Glyn-coch o gymuned Tref Pontypridd 1
Graig and Pontypridd West Y Graig a Gorllewin Pontypridd Wardiau y Graig a Rhondda o gymuned Tref Pontypridd 2
Hawthorn and Lower Rhydfelen Y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf Ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf o gymuned Tref Pontypridd 1
Hirwaun, Penderyn and Rhigos Hirwaun, Penderyn a’r Rhigos Cymunedau Hirwaun a’r Rhigos 2
Llanharry Llanhari Ward Llanhari o gymuned Llanhari 1
Llantrisant and Talbot Green Llantrisant a Thonysguboriau Wardiau Tref Llantrisant a Thonysguboriau o gymuned Llantrisant 2
Llantwit Fardre Llanilltud Faerdref Wardiau Efail Isaf a Llanilltud Faerdref o gymuned Llanilltud Faerdref 2
Llwyn-y-pia Llwynypia Cymuned Llwynypia 1
Mountain Ash Aberpennar Cymunedau Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar 2
Penrhiw-ceibr Penrhiw-ceibr Cymuned Penrhiw-ceibr 2
Pentre Pentre Cymuned Pentre 2
Pen-y-graig Pen-y-graig Cymuned Pen-y-graig 2
Pen-y-waun Pen-y-waun Cymuned Pen-y-waun 1
Pontyclun Central Canol Pont-y-clun Ward Canol Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun 1
Pontyclun East Dwyrain Pont-y-clun Ward Dwyrain Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun 1
Pontyclun West Gorllewin Pont-y-clun Ward Gorllewin Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun a ward Tylegarw o gymuned Llanhari 1
Pontypridd Town Tref Pontypridd Ward Tref Pontypridd o gymuned Tref Pontypridd 1
Porth Porth Cymuned Porth 2
Rhydfelen Central Canol Rhydfelen Ward Canol Rhydfelen o gymuned Tref Pontypridd 1
Taff’s Well Ffynnon Taf Cymuned Ffynnon Taf 1
Ton-teg Ton-teg Ward Ton-teg o gymuned Llanilltud Faerdref 1
Tonypandy Tonypandy Cymuned Tonypandy 1
Tonyrefail East Dwyrain Tonyrefail Wardiau Coedelái, Collena a Thylcha o gymuned Tonyrefail 2
Tonyrefail West Gorllewin Tonyrefail Wardiau Penrhiw-fer, Tretomas a Thyn-y-bryn o gymuned Tonyrefail 2
Trallwng Trallwng Ward Trallwng o gymuned Tref Pontypridd 1
Trealaw Trealaw Cymuned Trealaw 1
Treforest Trefforest Ward Trefforest o gymuned Tref Pontypridd 1
Treherbert Treherbert Cymuned Treherbert 2
Treorchy Treorci Cymuned Treorci 2
Tylorstown and Ynyshir Tylorstown ac Ynys-hir Cymunedau Tylorstown ac Ynys-hir 2
Upper Rhydfelen and Glyn-taf Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf Ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf o gymuned Tref Pontypridd 1
Ynysybwl Ynys-y-bwl Cymuned Ynys-y-bwl a Choed-y-cwm 2
Ystrad Ystrad Cymuned Ystrad 2