
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Dinas a Sir Abertawe;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 6 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “6”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Dinas a Sir Abertawe, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Dinas a Sir Abertawe wedi ei rhannu’n 32 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
4 
Mae cymuned y Cocyd, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu.
5 
Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a) cymuned y Cocyd a ddangosir â llinellau ar fap 1;
(b) cymuned Waunarlwydd a ddangosir â llinellau ar fap 2.
6 
Mae cymunedau y Castell a St Thomas, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
7 
Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a) cymuned y Castell a ddangosir â llinellau ar fap 3;
(b) cymuned St Thomas a ddangosir â llinellau ar fap 4;
(c) cymuned y Glannau a ddangosir â llinellau ar fap 5.
8 
Mae’r rhan o ward West Cross o gymuned y Mwmbwls a ddangosir â llinellau ar fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Newton o gymuned y Mwmbwls.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2021
YR ATODLEN
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Bishopston Llandeilo Ferwallt Cymuned Llandeilo Ferwallt 1
Bôn-y-maen Bôn-y-maen Cymuned Bôn-y-maen 2
Castle Y Castell Cymuned y Castell 4
Clydach Clydach Cymuned Clydach a ward Craig-cefn-parc o gymuned Mawr 3
Cockett Y Cocyd Cymuned y Cocyd 3
Cwmbwrla Cwmbwrla Cymuned Cwmbwrla 3
Dunvant and Killay Dyfnant a Chilâ Cymunedau Dyfnant a Chilâ 3
Fairwood Fairwood Cymunedau y Crwys a Chilâ Uchaf 1
Gorseinon and Penyrheol Gorseinon a Phenyrheol Cymuned Gorseinon a chymuned Pengelli a Waun-gron 3
Gower Gŵyr Cymuned Llangynydd a chymunedau Llanmadog a Cheriton, Llanrhidian Isaf, Pen-rhys, Portheinon, Reynoldston, a Rhosili 1
Gowerton Tregŵyr Cymuned Tregŵyr 2
Landore Glandŵr Cymuned Glandŵr 2
Llangyfelach Llangyfelach Cymuned Llangyfelach a ward Felindre o gymuned Mawr 1
Llansamlet Llansamlet Cymuned Llansamlet 4
Llwchwr Llwchwr Cymuned Llwchwr 3
Mayals Mayals Ward Mayals o gymuned y Mwmbwls 1
Morriston Treforys Cymuned Treforys 5
Mumbles Y Mwmbwls Wardiau Newton ac Ystumllwynarth o gymuned y Mwmbwls 3
Mynydd-bach Mynydd-bach Cymuned Mynydd-bach 3
Pen-clawdd Pen-clawdd Cymuned Llanrhidian Uchaf 1
Penderry Penderi Cymuned Penderi 3
Penllergaer Penlle’r-gaer Cymuned Penlle’r-gaer 1
Pennard Pennard Cymunedau Pennard a Llanilltud Gŵyr 1
Pontarddulais Pontarddulais Cymuned Pontarddulais a ward Garn-swllt o gymuned Mawr 2
Pontlliw and Tircoed Pont-lliw a Thir-coed Cymuned Pont-lliw a Thir-coed 1
Sketty Sgeti Cymuned Sgeti 5
St Thomas St Thomas Cymuned St Thomas 2
Townhill Townhill Cymuned Townhill 3
Uplands Uplands Cymuned Uplands 4
Waterfront Y Glannau Cymuned y Glannau 1
Waunarlwydd Waunarlwydd Cymuned Waunarlwydd 1
West Cross West Cross Ward West Cross o gymuned y Mwmbwls 2