
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
2 
Daw adrannau 1 i 5 o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2021.
3 
Ni ddaw adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2021 ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan yr adrannau hynny.
4 
Ni ddaw adran 8 o’r Ddeddf i rym ar 23 Tachwedd 2021 ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan yr adran honno.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
21 Medi 2021