
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021 a daw i rym ar 30 Medi 2021.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002;
 ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru.
2 
Mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2021 at ddibenion penderfynu—
(a) y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a
(b) amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
3 
Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2020wedi ei ddirymu.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
8 Medi 2021