
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 6 Ionawr 2021.
2 
Yn Erthygl 1(1) o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC dyddiedig 8 Medi 2000 sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd (‘Penderfyniad y Comisiwn’), ar ôl “meat preparations” mewnosoder “from third countries”.
3 

(1) Mae paragraph (2) o’r rheoliad hwn yn cael effaith yn ystod y cyfnod sy’n cychwyn ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac sy’n gorffen am hanner nos ar 31 Mawrth 2021.
(2) Mae Erthygl 3 o Benderfyniad y Comisiwn yn gymwys fel pe bai—
(a) “other than in relation to imports of meat preparations originating from, or produced in, an establishment situated in a territory subject to special transitional import arrangements,” wedi’i fewnosod, ym mharagraff 3, cyn “they”;
(b) “4. In this Article, “territory subject to special transitional import arrangements” has the same meaning as in point (a) of the definition of “territory subject to special transitional import arrangements” in paragraph 2 of Annex 6 to Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products.”wedi’i fewnosod ar y diwedd.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Ionawr 2021