
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 9 Medi 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y cofnod sy’n ymwneud â Gwlad Groeg—
(a) yn lle “Mykanos” rhodder “Mykonos”;
(b) ar ôl “Paros,” mewnosoder “Santorini, Serifos, Tinos”.
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 9 Medi 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod yn Santorini, Serifos neu Tinos ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 9 Medi 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn Santorini, Serifos neu Tinos, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn tiriogaeth o’r fath.
(3) Yn rheoliad 3(2)(a) o’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhynglwadol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020, yn lle “Mykanos” rhodder “Mykonos”
RHAN 3
4 

(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 2, ar y diwedd mewnosoder—“
(d) Bwrdd Criced Cymru a Lloegr - y T20 Blast;
(e) Bwrdd Criced Cymru a Lloegr - Cwpan Rachael Heyhoe Flint.”
(3) Ym mharagraff 10, ar y diwedd mewnosoder—“
(f) Matchroom - Twrnamaint Snwcer Cynghrair y Bencampwriaeth.”
(4) Ym mharagraff 14, ar y diwedd mewnosoder—“
(f) Teitl Pencampwriaeth Pwysau Bantam Uwch Ewropeaidd Sefydliad Bocsio’r Byd;
(g) Teitl Pencampwriaeth Pwysau Ysgafn Uwch y Byd.”
(5) Ar y diwedd mewnosoder—“
18. 
Gymnasteg - Gornest 4-Ffordd Dan 18 Gymnasteg Prydain.
19. 
Crefft Ymladd Cymysg - Cyfres “The Trilogy” Cage Warriors.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Medi 2020