
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 8 Medi 2020.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), ar ôl paragraff (q) mewnosoder—“
(r) mae i “ardal diogelu iechyd leol” yr ystyr a roddir gan Atodlen 4A. ”
(3) Yn lle rheoliad 4, rhodder—“
4. 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan Atodlen 4A), a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a) erbyn 10 Medi 2020;
(b) o leiaf unwaith yn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar 11 Medi 2020;
(c) o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan Atodlen 4A, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a) erbyn 24 Medi 2020;
(b) o leiaf unwaith yn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau ar 25 Medi 2020;
(c) o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 7 niwrnod.”
(4) Ar ôl rheoliad 14B mewnosoder—“
RHAN 4A
14C. 
Mae Atodlen 4A yn cynnwys darpariaeth ynghylch cyfyngiadau a gofynion sy’n gymwys mewn perthynas ag ardal diogelu iechyd leol (gan gynnwys darpariaethau sy’n addasu effaith darpariaethau eraill yn y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys mewn perthynas â’r ardal honno).”
(5) Yn rheoliad 18—
(a) ar ôl paragraff (3B) mewnosoder—“
(3C) Os oes gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) paragraff 6(1) o Atodlen 4A, caiff y swyddog—
(a) cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r fangre;
(b) tynnu P o fangre, a chaiff ddefnyddio grym rhesymol, os bydd angen, i wneud hynny.”;
(b) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(4A) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) paragraff 3(1) neu 4(1) o Atodlen 4A, caiff y swyddog—
(a) cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae P yn byw;
(b) mynd â P i’r man hwnnw.”;
(c) ym mharagraff (5)—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “(4)” mewnosoder “neu (4A)”;
(ii) yn is-baragraff (b), ar ôl “(c)” mewnosoder “neu (4A)(b)”;
(d) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(6ZA) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri, neu ar fin torri, paragraff 3(1) neu 4(1) o Atodlen 4A a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a) caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b) rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.”;
(e) ym mharagraff (6A), ar ôl “12(A)(1)” mewnosoder “neu baragraff 6(1) o Atodlen 4A”;
(f) ym mharagraff (7), ar ôl “(6)” mewnosoder “, (6ZA)”.
(6) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “12A(1),” mewnosoder “neu baragraff 5(1) o Atodlen 4A,”;
(ii) yn is-baragraff (b), ar ôl “14B(1),” mewnosoder “neu baragraff 3(1), 4(1) neu 6(1) o Atodlen 4A”;
(b) ym mharagraff (3)(a)—
(i) ar ôl “18(3A)(a),” mewnosoder “18(3C)(a),”;
(ii) ar ôl “18(4),” mewnosoder “18(4A)(a),”;
(iii) yn lle “neu (6)” rhodder “, (6) neu (6ZA)(a)”.
(7) Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder—“
ATODLEN 4A
Rheoliad 14C
1. 
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ardal diogelu iechyd leol.
2. 

(1) Er gwaethaf rheoliad 2A, ni chaiff unrhyw aelwyd sy’n byw mewn ardal diogelu iechyd leol gytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gydag aelwydydd eraill.
(2) Pan fo aelwyd sy’n byw mewn ardal diogelu iechyd leol wedi cytuno, cyn i’r paragraff hwn ddod i rym, i gael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig gydag aelwydydd eraill—
(a) nid yw’r aelwyd honno i’w thrin fel pe bai yn yr aelwyd estynedig, a
(b) mae’r aelwydydd eraill yn parhau i gael eu trin fel aelwyd estynedig (ar yr amod nad ydynt yn byw mewn ardal diogelu iechyd leol) ac mae rheoliad 2A yn gymwys i’r aelwydydd hynny yn unol â hynny.
3. 

(1) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal diogelu iechyd leol adael yr ardal, neu aros i ffwrdd o’r ardal, heb esgus rhesymol.
(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol y tu allan i’r ardal diogelu iechyd leol—
(a) cael—
(i) bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr un aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii) cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(b) cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 6 neu 7 o Atodlen 4 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(c) cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 o Atodlen 4 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(d) darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol, o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e) gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny gartref;
(f) pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi a chystadlu;
(g) darparu neu gael cynhorthwy brys;
(h) mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i) fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii) os caiff ei wahodd i fynychu, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
(i) mynd i angladd—
(i) fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii) os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(j) cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(k) cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(l) cael gafael ar ofal plant neu wasanaethau addysg neu gael y gofal neu’r gwasanaethau hynny;
(m) mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(n) symud cartref;
(o) ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(p) osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
(3) At ddibenion is-baragraff (1), nid yw’n esgus rhesymol i berson adael ardal diogelu iechyd leol, neu aros i ffwrdd o’r ardal honno, i wneud unrhyw beth os byddai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw o fewn yr ardal.
(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
4. 

(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, fynd i ardal diogelu iechyd leol neu aros ynddi.
(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol yn yr ardal diogelu iechyd leol—
(a) cael—
(i) bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr un aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii) cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(b) cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 6 neu 7 o Atodlen 4 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(c) cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 o Atodlen 4 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(d) darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol, o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e) gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(f) pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi a chystadlu;
(g) darparu neu gael cynhorthwy brys;
(h) mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i) fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii) os caiff ei wahodd i fynychu, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
(i) mynd i angladd—
(i) fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii) os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(j) cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(k) cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(l) cael gafael ar ofal plant neu wasanaethau addysg neu gael y gofal neu’r gwasanaethau hynny;
(m) mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(n) symud cartref;
(o) ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(p) osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed;
(q) teithio i gyrraedd man y tu allan i’r ardal.
(3) At ddibenion is-baragraff (1), nid yw’n esgus rhesymol i berson fynd i ardal diogelu iechyd leol, neu aros yn yr ardal honno, i wneud unrhyw beth os byddai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw y tu allan i’r ardal.
5. 

(1) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal diogelu iechyd leol adael y man lle y mae’n byw, neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw, er mwyn mynd i’r gwaith neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r gwaith.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os nad yw’n rhesymol ymarferol i’r person weithio o’r man lle y mae’n byw.
(3) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal diogelu iechyd leol adael y man lle y mae’n byw, neu aros i ffwrdd o’r ardal honno, er mwyn darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol.
(4) Ond nid yw is-baragraff (3) yn gymwys os nad yw’n rhesymol ymarferol i’r person ddarparu’r gwasanaethu gwirfoddol neu elusennol o’r man lle y mae’n byw.
(5) At ddibenion y paragraff hwn, mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.
6. 

(1) Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb mewn mangre agored mewn ardal diogelu iechyd leol.
(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a) pan fo esemptiad yn gymwys o dan is-baragraff (3);
(b) pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler is-baragraff (4).
(3) Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—
(a) pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b) pan fo P mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre honno.
(4) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
(a) pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
(b) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i gyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(c) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
(d) pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(e) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i) cymryd meddyginiaeth;
(ii) bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;
(f) pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth.
(5) At ddibenion is-baragraff (3)(b), pan fo bwyd neu ddiod wedi ei werthu neu ei gwerthu neu wedi ei ddarparu neu ei darparu fel arall i’w fwyta neu i’w hyfed mewn rhan o fangre, nid yw’r esemptiad ond yn gymwys pan fo P yn y rhan honno.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.00 p.m. ar 8 Medi 2020