
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2020.
(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2016” yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016.
3 
Mae Rheoliadau 2016 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 i 8.
4 
Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer paragraff (6).
5 
Yn rheoliad 4 (cymhwyso darpariaethauʼr Ddeddf), ym mharagraff (5), yn lle “yn gymwys i hysbysiad gwella” rhodder “yn gymwys i apêl yn erbyn hysbysiad gwella”.
6 
Yn lle rheoliad 7 (trefniadau trosiannol) rhodder—“
7. 
Caniateir i fwyd at ddibenion meddygol arbennig, nad ywʼn cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig a bennir yn Atodlen 1, barhau i gael ei farchnata nes iʼr stociau oʼr bwyd hwnnw gael eu disbyddu ar yr amod—
(a) ei fod yn cydymffurfio â darpariaethau Rheoliad yr UE a bennir yn Atodlen 1,
(b) iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu—
(i) cyn 22 Chwefror 2019, neu
(ii) cyn 22 Chwefror 2020 yn achos bwyd at ddibenion meddygol arbennig a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod, ac
(c) bod y gofynion a bennir yn rheoliad 3(1) a (2) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 wedi eu bodloni.”
7 
Yn Atodlen 1 (gofynion UE penodedig)—
(a) yn y rhan oʼr tabl syʼn ymwneud â Rheoliad yr UE, yn y cofnod syʼn ymwneud ag “Erthygl 15(1) (rhestr yr Undeb)”, yng ngholofn 2, yn lle “Erthyglau 1(1)(c), 4(1) aʼr Atodiad iʼr graddau y maeʼn gymwys i fwyd at ddibenion meddygol arbennig” rhodder “Erthyglau 1(1)(a) ac (c) a 4(1) aʼr Atodiad iʼr graddau y maeʼn gymwys i fformiwla fabanod, fformiwla ddilynol, a bwyd at ddibenion meddygol arbennig”;
(b) yn lleʼr rhan oʼr tabl syʼn ymwneud âʼr Rheoliad Dirprwyedig rhodder—“

Darpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig Y darpariaethau sydd i gael eu darllen gydaʼr ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig
Erthygl 2(2) (gofyniad i fformiwleiddiad bwyd fod yn seiliedig ar egwyddorion meddygol a maethol cadarn) Erthygl 1
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 2(3) (gofyniad i fwyd at ddibenion meddygol arbennig a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod gydymffurfio âʼr gofynion o ran cyfansoddiad yn Rhan A o Atodiad 1) Erthyglau 1 a 2(4) a Rhan A o Atodiad 1
Yr ail is-baragraff o Erthygl 2(3) (gofyniad i fwyd ac eithrio bwyd a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod gydymffurfio âʼr gofynion o ran cyfansoddiad yn Rhan B o Atodiad 1) Erthyglau 1 a 2(4) a Rhan B o Atodiad 1
Erthygl 3(2) (gofyniad syʼn ymwneud âʼr trothwy gweddillion ar gyfer sylweddau gweithredol penodol pan fo bwyd at ddibenion meddygol arbennig yn cael ei ddatblygu i fodloni gofynion maethol babanod a phlant ifanc) Erthyglau 1 a 3(1), (3) a (5) ac Atodiad 2
Erthygl 3(3) (uchafswm lefelau gweddillion ar gyfer y sylweddau a restrir yn Atodiad 2) Erthyglau 1 a 3(1), (2) a (5) ac Atodiad 2
Erthygl 3(4) (gwahardd defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion) Erthyglau 1 a 3(1) a (5) ac Atodiad 3
Erthygl 4 (enwʼr bwyd) Erthygl 1 ac Atodiad 4
Erthygl 5(1) (gofyniad i fwyd at ddibenion meddygol arbennig gydymffurfio â Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 oni phennir fel arall) Erthyglau 1 a 5(2)
Erthygl 5(2) (manylion mandadol ychwanegol syʼn ymwneud â gwybodaeth am fwyd) Erthyglau 1 a 5(1) a (3)
Erthygl 5(3) (cymhwyso Erthyglau 13(2) a (3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 i fanylion mandadol ychwanegol) Erthyglau 1 a 5(1) a (2)
Erthygl 6 (gofynion penodol ynghylch y datganiad ynglŷn â maethiad) Erthygl 1 ac Atodiad 1
Erthygl 7 (honiadau am faethiad ac iechyd) Erthygl 1
Erthygl 8(1) (gofyniad i fanylion mandadol ymddangos mewn iaith syʼn hawdd ei deall gan ddefnyddwyr) Erthygl 1
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 8(2) (gwahardd lluniau o fabanod neu luniau neu destun penodol arall) Erthygl 1
Erthygl 8(3) (gofynion syʼn ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu) Erthygl 1
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 8(4) (cyfyngiad ar gyhoeddi) Erthygl 1 aʼr trydydd is-baragraff o Erthygl 8(4)
Erthygl 8(5) (gwahardd defnyddio dyfeisiau hyrwyddo i gymell gwerthiannau) Erthygl 1
Erthygl 8(6) (gwahardd darparu cynhyrchion, samplau neu roddion hyrwyddo eraill am ddim neu am bris isel) Erthygl 1
Erthygl 9 (hysbysu) Erthygl 1”
8 
Yn Atodlen 2 (addasu darpariaethauʼr Ddeddf), yn Rhan 3 (addasu adran 35)—
(a) o flaen paragraff 7 mewnosoder—“
6A. 
Yn adran 35(1), ar ôl “section 33(1) above” mewnosoder “, as applied by regulation 4(6) and (7) of the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016,”;
(b) ar ôl paragraff 7 mewnosoder—“
7A. 
 Yn adran 35(2), ar ôl “any other offence under this Act” mewnosoder “including an offence under section 33(2), as applied by regulation 4(6) and (7) of the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016,”.
9 

(1) Maeʼr offerynnau a bennir yng ngholofn 1 oʼr tabl yn yr Atodlen wedi eu dirymu iʼr graddau a bennir yng ngholofn 3 oʼr tabl hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Maeʼr offerynnau a bennir yng ngholofn 1 oʼr tabl yn yr Atodlen yn parhau i gael effaith (iʼr graddau y maent wedi eu dirymu fel arall iʼr graddau a bennir yng ngholofn 3 oʼr tabl hwnnw) at ddibenion—
(a) rheoliad 7(c) o Reoliadau 2016 fel yʼi hamnewidir gan reoliad 6 oʼr Rheoliadau hyn, a
(b) rheoliad 5(3)(b) o Reoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2020
YR ATODLEN
Rheoliad 9


Offeryn Cyfeirnod Graddauʼr dirymu
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 O.S. 2000/1866 (Cy. 125) Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 O.S. 2007/3573 (Cy. 316) Rheoliad 30
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008 O.S. 2008/2602 (Cy. 228) Rheoliad 3
Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014 O.S. 2014/1102 (Cy. 110) Rheoliad 2
Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016 O.S. 2016/639 (Cy. 175) Paragraff 2 o Atodlen 3
Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019 O.S. 2019/70 (Cy. 22) Rheoliad 2