
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a deuant i rym am 12.01 a.m. ar 28 Awst 2020.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), ar ôl is-baragraff (n) mewnosoder—“
(o) ystyr “cartref gofal” yw mangre y mae “gwasanaeth cartref gofal” o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu ynddi;
(p) ystyr “hosbis” yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer darparu gofal lliniarol i bersonau sy’n dioddef o glefyd sy’n gwaethygu ac sydd yn ei gyfnodau olaf, gan neu ar ran sefydliad y mae darparu gofal o’r fath yn brif swyddogaeth iddo;
(q) ystyr “llety diogel” yw mangre y mae “gwasanaeth llety diogel” o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu ynddi.”
(3) Yn rheoliad 7(2)(a), yn lle “2, 5 neu 6” rhodder “2 neu 5”.
(4) Yn rheoliad 12(2A)—
(a) yn lle’r geiriau o flaen is-baragraff (a) rhodder “Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—”,
(b) yn is-baragraff (c), yn lle “Weinidogion Cymru neu i swyddog iechyd cyhoeddus ar gais y naill neu’r llall” rhodder“unrhyw un o’r canlynol, ar ei gais—
(i) Gweinidogion Cymru,
(ii) swyddog iechyd cyhoeddus,
(iii) person a ddynodir gan yr awdurdod lleol y mae’r fangre yn ei ardal i brosesu gwybodaeth at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws”.
(5) Yn rheoliad 14(2)—
(a) ar ôl is-baragraff (ja) mewnosoder—“
(jb) cael gwasanaethau addysgol;”,
(b) ar ôl is-baragraff (p) mewnosoder—“
(q) ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, hosbis, neu lety diogel.”
(6) Yn rheoliad 14A(2), ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(f) cael gwasanaethau addysgol.”
(7) Ar ôl rheoliad 14A mewnosoder—“
14B. 

(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—
(a) sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl,
(b) lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 14(1) neu 14A(1),
(c) lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant, neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a
(d) lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—
(i) y mae’n weithgarwch trwyddedadwy (o fewn ystyr Deddf Trwyddedu 2003), a
(ii) nas cynhelir o dan nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno).
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad, neu na fyddai ond yn ymwneud â’r digwyddiad, drwy fynd iddo.
(4) At ddibenion paragraff (1), mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oedd pobl yn ymgynnull yn y digwyddiad yn groes i reoliad 14(1) neu 14A(1).”
(8) Yn rheoliad 18, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(5A) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri, neu ar fin torri, rheoliad 14B(1), caiff y swyddog—
(a) cyfarwyddo’r person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i stopio neu atal y toriad;
(b) mynd â’r person o leoliad neu leoliad arfaethedig y digwyddiad y mae’r swyddog yn amau ei fod yn cael ei drefnu, neu’n amau ei fod ar fin cael ei drefnu, yn groes i reoliad 14B(1) (a chaiff y swyddog ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny).”
(9) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “14(1) neu 14A(1)” rhodder “14(1), 14A(1) neu 14B(1)”,
(b) ym mharagraff (6), yn lle “baragraff 20(1)” rhodder “y Rheoliadau hyn”.
(10) Yn rheoliad 21—
(a) ar ôl paragraff (7) mewnosoder—“
(7A) Pan ddyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 14B(1), rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (7)(c) fod yn £10,000 (ac nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys).”;
(b) ym mharagraff (8), yn lle “Rhaid” rhodder “Mewn unrhyw achos arall, rhaid”;
(c) ym mharagraff (11), ar ôl “ystyriaeth” mewnosoder “, ond nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir i’r person hwnnw mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 14B(1)”.
(11) Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 6.
(12) Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 44 mewnosoder—“
45. 
Casinos”
3 
Mae rheoliadau 20 ac 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau hynny wedi eu gwneud.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Awst 2020