
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 22 Awst 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—“
 Portiwgal”.
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 22 Awst 2020—
(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o Bortiwgal, neu ar ôl bod ym Mhortiwgal, a
(b) diwrnod olaf ynysiad P yw 22 Awst 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw ychwanegu Portiwgal at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 22 Awst 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â Phortiwgal, drwy gyfeirio at ba un a oedd Portiwgal yn wlad nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws Portiwgal pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
4 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—“
 Awstria”“
 Croatia”“
 Trinidad a Tobago”.
5 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 22 Awst 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 4 ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 22 Awst 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn y wlad honno, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
RHAN 3
6 
Yn rheoliad 9(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofynion ynysu: esemptiadau), yn lle “36” rhodder “38”.
7 

(1) Mae rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofynion ynysu: eithriadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer paragraff (4)(je) i (jg).
(3) Hepgorer paragraff (8)(b) i (e).
8 

(1) Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 9 rhodder—“
9. 
Arolygydd neu syrfëwr llongau, a benodwyd o dan adran 256 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 neu gan lywodraeth meddiant Prydeinig perthnasol fel y diffinnir “relevant British possession” yn adran 313(1) o’r Ddeddf honno, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.”
(3) Ar y diwedd mewnosoder—“
38. 

(1) Person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig—
(a) sy’n athletwr elît sy’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth elît dramor,
(b) sy’n darparu cymorth i athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu fel arall yn ei hyfforddi, neu
(c) sy’n gwasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît dramor neu fel arall yn ymwneud â’i rhedeg,pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ddychwelyd o’r gystadleuaeth elît dramor.
(2) Yn y paragraff hwn—
(a) ystyr “athletwr elît” yw person—
(i) sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,
(ii) sy’n athletwr elît o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, neu
(iii) nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i) neu (ii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu gynghrair Europa;
(b) ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu ynddi—
(i) i ennill bywoliaeth, neu
(ii) i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad;
(c) ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae person i’w drin fel pe bai wedi dychwelyd o gystadleuaeth o’r fath os yw’r person, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod olaf ynysiad y person, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion cystadleuaeth o’r fath.”
9 

(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 3 rhodder—“
3. 
Dartiau—
(a) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Cyfres yr Haf;
(b) Betfred World Matchplay Darts;
(c) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Uwch-gynghrair Unibet;
(d) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Y Daith Ddatblygu;
(e) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Y Daith Her;
(f) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Cyfres y Menywod;
(g) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Pencampwriaeth y Chwaraewyr;
(h) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.”
(3) Yn lle paragraff 10 rhodder—“
10. 
Snwcer—
(a) Pencampwriaeth Snwcer y Byd Betfred;
(b) Taith Snwcer y Byd - Meistri Ewrop;
(c) Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaeth Agored Lloegr;
(d) Taith Snwcer y Byd - Shoot Out;
(e) Twrnamaint Snwcer Pencampwr y Pencampwyr Matchroom.”
(4) Yn y testun Cymraeg, yn lle paragraff 14 rhodder—“
14. 
Bocsio—
(a) Matchroom Fight Camp - Gornest Ryngwladol Pwysau Trwm;
(b) Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Trwm y Byd Cyngor Bocsio’r Byd;
(c) Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Ysgafn y Byd y Menywod Sefydliad Bocsio’r Byd.”
(5) Ar y diwedd mewnosoder—“
15. 
Sboncen - Twrnamaint Sboncen Agored Manceinion 2020.
16. 
Bowlio Deg - Cwpan Weber Matchroom BetVictor.
17. 
Pŵl - Twrnamaint Pŵl Cwpan Mosconi Partypoker Matchroom.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 1.36 p.m. ar 21 Awst 2020