
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 a deuant i rym ar 17 Awst 2020.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12—
(a) yn y geiriau ar ddechrau paragraff (2), ar ôl “fangre,” mewnosoder “neu o ledaenu’r coronafeirws gan y rhai sydd wedi bod yn y fangre”;
(b) ar ddiwedd paragraff (2A), mewnosoder—“
(c) casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre neu, mewn perthynas â phersonau o’r un aelwyd, oddi wrth un ohonynt, a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i Weinidogion Cymru neu i swyddog iechyd cyhoeddus ar gais y naill neu’r llall.”;
(c) ar ôl paragraff (4), mewnosoder—“
(5) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson yn y fangre, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigonol i allu dod o hyd i’r person, i roi gwybod i’r person y gall fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre (yn cynnwys rhif ffôn a’r dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);
(b) mae i “swyddog iechyd cyhoeddus” yr un ystyr ag a roddir i “public health officer” ym mharagraff 3(2)(c) o Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020.”.
(3) Yn rheoliad 20—
(a) hepgorer paragraff (3A);
(b) ym mharagraff (4), yn lle “unrhyw drosedd arall” rhodder “trosedd”.
(4) Yn Atodlen 5, ym mharagraff 5(6), yn lle “ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre” rhodder “dalu digollediad”.
3 
Mae rheoliadau 20 ac 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau hynny wedi eu gwneud.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.50 p.m. ar 14 Awst 2020